Rhydlys Stabler
Rhydlys Stabler Marsupella stableri | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Gymnomitriaceae |
Genws: | Marsupella |
Rhywogaeth: | M. stableri |
Enw deuenwol | |
Marsupella stableri |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Rhydlys Stabler (enw gwyddonol: Marsupella stableri; enw Saesneg: Stabler's rustwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn dau leoliad ar arfordir Gwynedd a nifer o lefydd yn yr Alban ac Ardal y Llynnoedd.
Fel arfer, mae'r llysiau'r afu hyn yn tyfu fel matiau coch llorweddol, tebyg i edau, sy'n binc eu lliw, ond gall rhai planhigion fod yn goch tywyllach neu bron yn ddu, neu'n wyrdd yn y cysgod. Eu cynefin yw llethrau llaith y mynyddoedd.
Gall yr egin fod hyd at 15 mm o hyd, ond fel arfer maent yn llawer byrrach, ac yn gul iawn.[1]
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 25 Hydref 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.