Red Dawn
Gwedd
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | John Milius |
Cynhyrchydd | Sidney Beckerman Buzz Feitshans |
Ysgrifennwr | John Milius Kevin Reynolds |
Serennu | Patrick Swayze Charlie Sheen Lea Thompson Jennifer Grey C. Thomas Howell Brad Savage Darren Dalton |
Cerddoriaeth | Basil Poledouris |
Sinematograffeg | Ric Waite |
Golygydd | Thom Noble |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | MGM/UA Entertainment Co. |
Amser rhedeg | 114 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Ffilm ryfel Americanaidd o 1984 ydy Red Dawn. Cyfarwyddwyd ac ysgrifennwyd y ffilm gan John Milius ar y cyd gyda Kevin Reynolds. Lleolir y ffilm mewn llinell amser gwahanol yng nghanol y 1980au, ac mae'n ymdrin ag ymosodiad ar yr Unol Daleithiau gan yr Undeb Sofietaidd a'i chynghreiriaid Canol America. Fodd bynnag, mae'r bygythiad o Drydydd Rhyfel Byd yn gefndir yn unig i'r ffilm ac ni ymhelaethir ar hyn. Dilyna'r stori griw o fyfyrwyr ysgol uwchradd Americanaidd sy'n ymladd yn ôl yn erbyn eu gormeswyr drwy dulliau guerrilla , gan alw eu hunain yn "Wolverines", sef enw mascot eu hysgol uwchradd.