R. Gwynedd Parry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
R. Gwynedd Parry
Ganwyd 1971 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth academydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata

Ysgolhaig cyfreithiol yw yr Athro Richard Gwynedd Parry (ganwyd 1971). Mae ganddo gyhoeddiadau niferus ar bynciau cyfreithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae llawer o'i waith ysgolheigaidd yn cysylltu'r gyfraith gyda hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru, ac yn enwedig y Gymraeg. Cyhoeddodd yn gyson mewn cylchgrawn|cylchgronau academaidd]] rhyngwladol ac ef yw cofiannydd y cyfreithiwr o Lanaelhaearn, Syr David Hughes Parry (1893-1973).[1] Ei gyhoeddiadau pwysicaf yn y Gymraeg yw'r cyfrolau Cymru'r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012) a Y Gyfraith yn ein Llên (Gwasg Prifysgol Cymru, 2019).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fab i'r Parchedig W. Gareth Parry ac Ann Parry (merch y Parchedig Ganon H. E. Jones, Y Bala), fe'i magwyd yn Llandderfel, Sir Feirionnydd cyn i'r teulu symud i ardal Llanrwst pan oedd yn blentyn ifanc. Yr oedd ei dad yn weinidog yr efengyl gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanddoged ac Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Graddiodd yn y gyfraith o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (LL.B, 1992), cyn mynychu Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Frawdlys (Inns of Court School of Law) yn Llundain. Fe'i galwyd i'r Bar o Ysbyty Gray's yn 1993. Bu wedyn yn ymarfer fel bargyfreithiwr ar Gylchdaith Cymru a Chaer o siambrau yn Abertawe, cyn iddo gael ei benodi i'w swydd academaidd gyntaf yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1999. Yn 2001, ymunodd ag Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe fel darlithydd. Fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd yn 2007, a chafodd ei benodi i gadair bersonol yn y gyfraith yn 2011. Dyfarnwyd iddo radd doethur mewn athroniaeth yn y gyfraith gan Brifysgol Caerhirfryn yn 2008.[2]

Ers 2020, mae'n Bennaeth ar Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan iddo ymuno gyda'r Adran yn 2017.[3]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol yn 2010 ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.[4]

Yn 2020, dyfarnwyd iddo Wobr Hywel Dda gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, am ei gyfrol Y Gyfraith yn ein Llên (Gwasg Prifysgol Cymru, 2019).[5] Dyfernir y wobr am ragoriaeth mewn ysgolheictod ac am waith sydd yn "helaethu gwybodaeth am gyfraith a defod y Cymry yn yr oesoedd canol".[6]

Y mae hefyd yn adnabyddus i lawer yng Nghymru fel unawdydd, ac ef oedd ennillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts (Y Rhuban Glas i gantorion ifanc) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998.[7]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n briod a Meinir Angharad Jones Parry (merch yr arlunydd Aneurin Jones) ers 1998, ac y mae ganddynt dri o feibion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Parry, R. Gwynedd. (2010). David Hughes Parry : a jurist in society. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2292-5. OCLC 731440657.CS1 maint: date and year (link)
  2. Parry, R. Gwynedd, author. Cymru'r Gyfraith : Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol. ISBN 978-0-7083-2519-3. OCLC 799767016.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. "Staff Adran y Gymraeg - Prifysgol Abertawe". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2020-08-26.
  4. PARRY, R. GWYNEDD. (2019). Y GYFRAITH YN EIN LLEN. GWASG PRIFYSGOL CYMRU. ISBN 1-78683-429-4. OCLC 1125266647.
  5. Prifysgol Cymru https://www.wales.ac.uk/cy/NewsandEvents/Newyddion/Gwobrau-blynyddol-Canolfan-Uwchefrydiau-Cymreig-a-Cheltaidd.aspx. Cyrchwyd 2020-10-11. Missing or empty |title= (help)
  6. (PDF) http://cyfraith-hywel.cymru.ac.uk/uploads/legal_history_at_aberystwyth.pdf. Cyrchwyd 2020-10-11. Missing or empty |title= (help)
  7. "Enillwyr Gwobr Goffa Osborne Roberts | Eisteddfod Genedlaethol". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2020-08-26.