Neidio i'r cynnwys

Pysgodyn Coch

Oddi ar Wicipedia
Pysgodyn Coch
Llun y rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Scorpaeniformes
Teulu: Sebastinae
Genws: Sebastes
Rhywogaeth: S. norvegicus
Enw deuenwol
Sebastes norvegicus
(Linnaeus 1758)

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac sy'n perthyn i deulu'r Sebastinae ydy'r pysgodyn coch sy'n enw gwrywaidd; lluosog: pysgod coch(ion) (Lladin: Sebastes marinus; Saesneg: Rose fish).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Môr y Gogleddac mae i'w ganfod ar arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Heb ei gwerthuso' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth gan nad oes data digonol.[1]

Mae'r math yma o bysgodyn yn cael ei bysgota ar gyfer y bwrdd bwyd.

Cysylltiadau â phobl[golygu | golygu cod]

Roedd Peter Benoit o’r Bermo yn edrych ymlaen yn ddiweddar[2] at gael tamaid o bysgodyn coch i de. Mi brynodd ddarn o bysgodyn coch wedi ei rewi mewn paced yn yr archfarchnad leol. Sylwodd ar y paced fod y darn o bysgodyn wedi ei ddal yng ngogledd Môr yr Iwerydd. "Mi wnaiff hwnna'r tro" meddai gan hanner meddwl am effaith ei ddewisiadau siopio ar yr amgylchedd - dydi Spitzbergen neu Ynysoedd y Ffaero ddim yn ben draw'r byd, ond tybed? Ar ôl cyrraedd adref darllenodd y print mân:

PACKED IN CHINA

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan www.marinespecies.org; adalwyd 4 Mai 2014
  2. Bwletin Llên Natur Rhif 10