Plas Teg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Plas Teg
Plas Teg
Plas Teg is located in Cymru
Gwybodaeth gyffredinol
Statws Grade I
Math Plasty
Arddull bensaernïol Arddull Jacobeaidd
Lleoliad Ar ymyl yr A541 (CH7 4HN)
Cyfeiriad 1km i'r dwyrain o Goed-llai;
2km i'r gogledd-orllewin o'r Hôb
Tref neu ddinas Wrecsam
Gwlad Cymru
Codiad 100m
Torri'r dywarchen gyntaf 1610
Cynllunio ac adeiladu
Perchennog Preifat
Adeilad rhestredig – Graddfa I
Dyddiad cofrestru 14 Chwefror 1952
Gwefan
http://plasteg.com/index.php/history/

Plasty Jacopeaidd rhwng pentrefi'r Hôb a Phontblyddyn, Sir y Fflint yw Plas Teg a godwyd gan Sion Trevor (1563–1630) tua 1610.[1]

Roedd Sion Trevor (neu John Trevor yn ddiweddarach yn ei oes) yr ail fab hynaf i Sion Trefor (m. 1589), Trefalun, y ceir cofeb alabaster iddo yn Eglwys Gresffordd. Ar y gofeb honno, disgrifir ei blant, a dyma'r disgrifiad o Sion:

Golygwr ar Lynges ardderchawg y Frenhines, yr hwn a briododd Marged merch Hywel Trevanian o (?)arihays yn Gernyw, Ysgweier, vab Syr Hyw Trevanian, Marchog ar ol ei dad.
Plas Teg (c. 1778)

Ceir cerddi am faenordy cyharach ar y safle hwn gan feirdd y 15g. Dengys arolwg Robert Eggerley o arglwyddiaeth y Waun yn 1391-2 fod tiroedd Ednyfed Gam wedi eu rhannu rhwng ei etifeddion a bod Dafydd ab Ednyfed Gam yn berchen ar dir yn nhrefgordd Bryncunallt a Phlas Teg yn yr Hôb, "lle y byddai ei orwyr, Robert Trefor ap Siôn Trefor, yn trigo yn y dyfodol".[2]

Hwn oedd prif gartref Sion, ac defnyddiai'r tŷ'n aml i groesawu gwahoddedigion yno, yn enwedig rhai o brif gyfreithwyr Llundain. Fel ei frodyr, roedd yn Bengryniad pybyr. Bu farw yn 1629 a Marged ei wraig ar ei ôl; ddwy flynedd wedi hynny anrhaethwyd yr adeilad pan ymosododd y Cadfridog Brereton a Phengryniaid eraill ar yr ardal.

Ni newidiwyd llawer ar Blas Teg hyd at ddiwedd y 18g pan ychwanegwyd rhai adeiladau allanol gan y Fonesig Jane Dacre. Tua 1823-4 gweddnewidiwyd y lle gan Charles Blayney Trevor-Roper gyda cryn newidiadau strwythurol, ond gadw'r hen naws.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • E Hubbard, Clwyd, 1986, pp376–377;
  • RCAHMW, Sir y Fflint, 1912, p48 (133);
  • M Girouard, erthygl yn Country Life, 19 Gorffennaf 1962;
  • P Smith, Houses of the Welsh Countryside, 1988, tt225-229, fig 133, pl 72, mapiau 49, 53;