Pinchas Goldhar

Oddi ar Wicipedia
Pinchas Goldhar
Pinchas Goldhar.jpg
Pinchas Goldhar.
Ganwyd14 Mehefin 1901 Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Awdur straeon byrion, newyddiadurwr, a golygydd Pwylaidd-Awstralaidd yn yr iaith Iddew-Almaeneg oedd Pinchas Goldhar (14 Mehefin 190125 Ionawr 1947).[1]

Ganed ef i deulu Iddewig yn Łódź yng Ngwlad Pwyl y Gyngres. Cychwynnodd ar ei yrfa newyddiadurol ym 1922 i'r papur newydd dyddiol Iddew-Almaeneg Lodzsher Togblat. Cyfieithodd sawl nofel a stori Ffrangeg ac Almaeneg i'r Iddew-Almaeneg, a byddai ei drosiad o'r ddrama Die Weber gan Gerhart Hauptmann yn boblogaidd yn y theatr Iddew-Almaeneg.[1]

Wedi marwolaeth ei fam, ymfudodd gyda'i dad a'i frodyr a chwiorydd i Awstralia ym 1928 ac ymsefydlasant ym Melbourne. Priododd Pinchas Golhar ag Ida Shlezynger ym 1934 a chawsant dri phlentyn.[1] Gweithiodd Goldhar mewn siop liwio ei dad, a dywed i'r hynny gwaethygu afiechyd ei galon ac achosi ei farwolaeth ifanc, o thrombosis coronaidd, yn 45 oed.[2]

Goldhar oedd golygydd cyntaf y papur newydd Iddew-Almaeneg cyntaf a gyhoeddwyd yn Awstralia, Australier Leben, o 1931 i 1934. Cyfrannodd at y ddau lyfr cyntaf i'w cyhoeddi yn Iddew-Almaeneg yn Awstralia, yr almanac Iddewig cenedlaethol ym 1937 a'r casgliad o straeon Dertseylungen fun Oystrale ym 1939.[1] Ysgrifennodd nifer o straeon byrion sydd yn ymdrin â phrofiad y mewnfudwyr Iddewig o Ddwyrain Ewrop i Awstralia yn ystod hanner cyntaf yr 20g, a golygodd atodlenni Iddew-Almaeneg mewn sawl papur newydd Iddewig yn y wlad.[2] Cyfieithodd hefyd straeon byrion gan awduron Saesneg Awstralia i'r Iddew-Almaeneg, yn eu plith Henry Lawson, Katharine Susannah Prichard, Frank Dalby Davison, Alan Marshall, a Vance Palmer.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "Pinchas Goldhar (1901-1947)", Prifysgol Monash. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2022.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) William Rubinstein, "Goldhar, Pinchas", Encylopaedia Judaica. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 1 Rhagfyr 2022.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • P. Maclean, "The Convergence of Cultural Worlds – Pinchas Goldhar: A Yiddish Writer in Australia" yn Jews in the Sixth Continent, golygwyd gan W. D. Rubinstein (Sydney: Allen & Unwin, 1987).
  • P. Maclean, "The Australian-Yiddish Writer, Pinchas Goldhar (1901–47)", Southerly 55, tt. 29–34.