Theatr Iddew-Almaeneg

Oddi ar Wicipedia

Traddodiad celfyddydol modern sydd yn cynnwys dramâu a chynyrchiadau theatraidd eraill a ysgrifennir a pherfformir drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg, iaith frodorol yr Iddewon Ashcenasi, yw'r theatr Iddew-Almaeneg. Datblygodd yn niwedd y 19g yn Nwyrain Ewrop ac a gyrhaeddai ei hanterth yn ystod hanner cyntaf yr 20g ar draws Ewrop ac yng nghymunedau'r Iddewon ar wasgar, gan gynnwys Berlin, Warsaw, Llundain, Paris, Buenos Aires, a Dinas Efrog Newydd. Mae ystorfa'r theatr Iddew-Almaeneg yn hynod o amrywiol, gan gynnwys comedïau, sioeau cerdd, operetâu, rifiwiau dychanol neu hiraethus, trasiedi a melodrama, a dramâu naturiolaidd, mynegiadol, a modernaidd.

Daw gwreiddiau'r theatr Iddew-Almaeneg o draddodiadau canoloesol yr Iddewon yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop. Byddai dawnswyr, cantorion, dynwaredwyr, a chroesaniaid yn adlonni priodasau a dathliadau Pwrim. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar, dechreuodd actorion Iddewig deithio o ddrws i ddrws yn ystod gŵyl Pwrim yn perfformio dramâu mydryddol o straeon Beiblaidd gyda chyfeiriadau at bynciau cyfoes, gan gynnwys canu a datganu ar y pryd. Erbyn yr 16g, perfformiwyd y rheiny yn iaith y werin Iddewig, yr Iddew-Almaeneg. Ysgrifennwyd dramâu yn yr iaith honno gan awduron ym Merlin yn nechrau oes yr Haskalah—yr Oleuedigaeth Iddewig—yn niwedd y 18g, a chan ddeallusion yn Ymerodraeth Rwsia yng nghanol y 19g, er na pherfformiwyd y rheiny yn aml.[1]

Datblygodd y theatr Iddew-Almaeneg fodern yn niwedd y 19g, gyda phwyslais ar gerddoriaeth, a daeth yn un o brif feysydd y diwylliant Iddew-Almaeneg. Ym 1876 sefydlwyd y cwmnï theatraidd cyntaf yn y byd ar gyfer perfformiadau drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg gan Avrom Goldfaden (1840–1908) yn Iași, Tywysogaeth Rwmania, ac yn 1878 fe sefydlodd y chwaraedy Iddew-Almaeneg cyntaf yn Odesa, Ymerodraeth Rwsia. Ymledodd y theatr Iddew-Almaeneg ar draws Ewrop, ac ymhen fawr o dro i Unol Daleithiau America, ac yno yn ardal de-ddwyrain Manhattan, un o fwrdeistrefi Efrog Newydd a chanolfan ddiwylliannol yr Americanwyr Iddewig. Ymhlith y dramodwyr nodedig o'r cyfnod hwn mae Jacob Gordin (1853–1909), David Pinski (1872–1959), S. Ansky (1863–1920), H. Leivick (1888–1962), Peretz Hirschbein (1880–1948), Sholem Asch (1880–1957), a Leon Kobrin (1873–1946).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Yiddish literature: Yiddish theatre. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2022.