Pickwick (sioe gerdd)
Enghraifft o'r canlynol | sioe gerdd Saesneg |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1963 |
Awdur | Leslie Bricusse a Wolf Mankowitz |
Iaith | Saesneg |
Cysylltir gyda | Harry Secombe a Beryl Hall |
Pwnc | The Pickwick Papers gan Charles Dickens |
Math | sioe theatr |
Yn cynnwys | If I Ruled the World |
Libretydd | Wolf Mankowitz |
Lleoliad y perff. 1af | 1963 West End Llundain a 1965 Broadway |
Lleoliad y gwaith | Llundain, Rochester |
Cyfansoddwr | Cyril Ornadel |
Sioe gerdd yw Pickwick o waith Wolf Mankowitz, gyda cherddoriaeth gan Cyril Ornadel, a geiriau gan Leslie Bricusse. Mae'n seiliedig ar nofel Charles Dickens o 1837 The Pickwick Papers, ac wedi'i lleoli yn Llundain a Rochester a'r cyffiniau ym 1828.
Cynhyrchwyd Pickwick am y tro cyntaf yn West End Llundain ym 1963, gyda'r Cymro Harry Secombe yn brif ran, a choreograffi gan Gillian Lynne. Roedd yr actores Gymraeg Beryl Hall hefyd yn ran o'r cynhyrchiad.[1]
Plot
[golygu | golygu cod]Wedi'i gosod yn Lloegr ym 1828, mae'r stori'n canolbwyntio ar y bonheddwr cyfoethog Samuel Pickwick a'i gynorthwywr [valet] Sam Weller, sydd wedi'u carcharu am eu dyledion, ac yn hel atgofion am yr anturiaethau a arweiniodd at eu carcharu.
Ar y Noswyl Nadolig blaenorol, cyflwynodd Pickwick ei ffrind Wardle a'i deulu o ferched, Emily ac Isabella, a'u Modryb Rachael i dri aelod o'r Clwb Pickwick, sef Nathaniel Winkle, Augustus Snodgrass, a Tracy Tupman. Ymunwyd â hwy gan Alfred Jingle, a dwyllodd Tupman i dalu am ei docyn i ddawns, y noson honno. Ar ôl dod i wybod bod Rachael yn aeres gyfoethog, aeth Jingle ati i geisio ac ennill ei llaw.
Mae Pickwick yn cyflogi Sam Weller fel ei gynorthwywr [valet], a thrwy gyfres o gamddealltwriaethau, mae'n camarwain ei letywraig, Mrs Bardell, i gredu ei fod wedi bwriadu ei phriodi. Mae Pickwick yn cael ei gyhuddo o dorri addewid a’i ddwyn i’r llys, lle mae’n cael ei ganfod yn euog a’i ddedfrydu i garchar pan mae’n gwrthod yn ei ystyfnigrwydd, i dalu iawndal iddi.
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod]Agorodd y sioe gerdd ar 3 Mehefin 1963 yn y Palace Theatre, Manceinion cyn y perfformiad cyntaf yn y West End ar 4 Gorffennaf 1963 yn Theatr Saville a daeth i ben ar 27 Chwefror 1965 yn dilyn 694 o berfformiadau. [2] Peter Coe a gyfarwyddodd, y coreograffi gan Leo Kharibian a Gillian Lynne, y cynllun a'r dyluniad golygfaol gan Sean Kenny a'r gwisgoedd gan Roger K. Furse. Roedd y cast ym Manceinion a Llundain yn cynnwys Harry Secombe fel Pickwick, Jessie Evans fel Mrs Bardell a Teddy Green fel Sam Weller. Roedd yr actores Gymraeg Beryl Hall yn understudy i'r actores o Gymru, Jessie Evans, yn Llundain. Portreadwyd y Pickwickiaid Tracy Tupman, Augustus Snodgrass a Nathaniel Winkle gan Gerald James, Julian Orchard ac Oscar Quitak yn y drefn honno. Anton Rodgers oedd Mr. Jingle, a Robin Wentworth a Norman Rossington [3] oedd yn portreadu'r rhan Tony Weller. Portreadwyd Rachel, Isabella ac Emily gan Hilda Braid, Vivienne St. George a Jane Sconce yn y drefn honno gyda 'cariad' Sam Weller, Mary yn cael ei pherfformio'n wych gan Dilys Watling . Roedd gweddill y cast a'r Cwmni yr un mor drawiadol.
Roedd y perfformiad cyntaf ar Broadway, a gynhyrchwyd gan David Merrick, yn y 46th Street Theatre ar y 4 Hydref 1965. Caeodd ar 18 Tachwedd ar ôl 56 o berfformiadau. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad yn Efrog Newydd gan Peter Coe, a choreograffwyd gan Gillian Lynne, gyda Harry Secombe fel Pickwick, Charlotte Rae fel Mrs Bardell, Roy Castle fel Sam Weller, Nancy Haywood fel Isabella, Michael Logan fel Mr Wardle, a Peter Bull fel Mr. Rhingyll. Buzfuz.
Dywed Davy Jones o The Monkees iddo gael ei gyfle cyntaf yn Hollywood ar ôl ymddangos fel Sam Weller yn Pickwick gyda Harry Secombe, lle gwelodd yr awduron Paul Mazursky a Larry Tucker ef.
Y gân fwyaf adnabyddus o'r sgôr yw "If I Ruled the World", a ddaeth yn arwydd-dôn i Harry Secombe, ond a gafodd sylw hefyd gan Tony Bennett, Sammy Davis Jr a llawer o leiswyr eraill.
Ym 1969 addasodd y BBC y sioe gerdd Pickwick, yn ffilm deledu lle'r oedd Harry Secombe yn chwrae rhan Mr. Pickwick eto, gyda Roy Castle fel Sam Weller.
Caneuon
[golygu | golygu cod]Cynhyrchiad Llundain
[golygu | golygu cod]- Act 1
- Business is Booming - Gwerthwr Hot Toddy, Gwerthwr Diodydd Oer a Turnkey
- Debtors Lament - Corws
- Talk - Sam Weller a'r Corws
- That's What I'd Like for Christmas - Pickwick a'r Cwmni
- The Pickwickians - Pickwick, Augustus Snodgrass, Tracy Tupman a Nathaniel Winkle
- Bit of a Character - Mr. Jingle, Augustus Snodgrass, Nathaniel Winkle a Tracy Tupman
- Quadrille - Y Cwmni
- There's Something About You - Mr. Jingle, Rachel a'r Cwmni
- Learn a Little Something - Sam Weller a Mary
- You Never Met a Feller Like Me - Pickwick a Sam Weller
- Look into Your Heart - Pickwick a Mrs. Bardell
- Winter Waltz - Corws
- Act 2
- A Hell of an Election - Corws
- Very - Mr. Jingle, Pickwick a Mr. Wardle
- If I Ruled the World - Pickwick a'r Cwmni
- The Trouble with Women - Tony Weller a Sam Weller
- That's the Law - Dodson a Fogg, Pickwick, Sam, y Pickwickiaid, y Clerciaid
- British Justice - Pickwick a'r Cwmni
- Do as you Would be Done By - Jingle, Pickwick, Sam, Mrs. Bardell a'r Corws
- Good Old Pickwick - Y Cwmni
- If I Ruled the World (Ail-ganu) - Pickwick a'r Cwmni
Gwobrau ac enwebiadau
[golygu | golygu cod]Enwebwyd Harry Secombe ar gyfer Gwobr Tony am y Perfformiad Gorau gan Brif Actor mewn Sioe Gerdd, enwebwyd Roy Castle ar gyfer Gwobr Tony am y Perfformiad Gorau gan gyd-Actor mewn Sioe Gerdd, enwebwyd Charlotte Rae ar gyfer Gwobr Tony am y Perfformiad Gorau gan gyd-Actores mewn Sioe Gerdd, ac enwebwyd Sean Kenny ar gyfer Gwobr Tony am y Cynllun Golygfaol Gorau o Sioe Gerdd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Mair Elynned (1981). Ymhlith y Sêr. Tŷ ar y Graig.
- ↑ 1963 Listing at GuideToMusicalTheatre.com guidetomusicaltheatre.com, retrieved December 20, 2009
- ↑ Obituary for Norman Rossington, The Guardian, 22 May 1999
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Pickwick at the Internet Broadway Database
- Pickwick production, synopsis, and songs at GuideToMusicalTheatre.com
- Pickwick at LeslieBricusse.com