Beryl Hall
| Beryl Hall | |
|---|---|
| Ganwyd | Beryl Williams 1927 Llanrug, Gwynedd |
| Bu farw | 23 Ebrill 2021 Caernarfon, Gwynedd |
Actores a chantores o Gymru oedd Beryl Williams neu Beryl Hall (1927 - 23 Ebrill 2021) [1] a ddaeth i amlygrwydd yn y 1960au ar deledu a llwyfannau Cymru a Llundain. Bu'n wyneb cyfarwydd ar deledu a ffilm Cymraeg a Saesneg, ac ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Cymru. Bu ganddi hefyd gysylltiad cerddorol phwysig â Rwsia.[2] Roedd hi'n enwog am ganu efo'i chi 'Ben' ac ymddangosodd ar raglenni poblogaidd Saesneg gan gynnwys Harry Secombe a Max Bygraves.[3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Beryl ar fferm o'r enw Glyn Meibion ger Llanrug, Gwynedd.[2] Pan yn blentyn, bu'n cystadlu'n lleol mewn Eisteddfodau a dod yn llwyddiannus am ganu. Wedi ymadael â'r ysgol yng Nghaernarfon, bu'n gweithio yn siop W.H.Smith yn y dref, lle trefnwyd iddi gael gwersi canu gan y cerddor enwog Peleg Williams, drwy gynllun nawdd i staff y siop.[2]
Ym 1944, cwrddodd â "milwr ifanc" o Brixton, Llundain o'r enw George Hall, oedd ar wyliau yng Nghaernarfon, a phan yn ddwy-ar-bymtheg oed, bu iddi "redeg i ffwrdd i Lundain" i'w ddilyn, ac yn pen draw, ei briodi ym mis Rhagfyr 1944.[2] Tra'n Llundain, dechreuodd ymweld â'r Theatr, ac roedd teulu ei gŵr newydd yn gysylltiedig â byd jazz yn y 1940au, a buan iawn y daeth Beryl i ganu yng nghlybiau jazz y ddinas.[2]
Dychwelant i Gymru ym 1950, gan setlo yn Llanrug i gychwyn, cyn prynu ac agor Caffi Rondo yng Nghaernarfon, ar y cyd a'i chyn-athro canu, Peleg Williams a'i wraig. Ond bu mudo eto yn y man, a dychwelant i Lundain, gan brynu tŷ yn ardal Tulse Hill. Derbyniodd Beryl addysg gerddorol pellach gan Madame Rolls, a'i hyfforddi fel Mezzo-soprano, a dechreuodd ganu gyda pharti enwog Madam Byron Jones yn Nghlwb Cymry Llundain, Gray's Inn Road. Canodd Beryl yn Gymraeg o flaen Iarll Louis Mountbatten a'i wraig mewn cyngerdd yng ngwesty y Grosvenor House, a daeth yn gyfeillion gyda'r cyfansoddwr o Gymru Meirion Williams, a gytunodd i'w hyfforddi hefyd.[2]
Ymwelodd Beryl â Rwsia ym 1957, ar gyfer "Gŵyl Ryngwladol o'r Celfyddydau i Ieuenctid", ble y cafodd y cyfle i ganu'r alaw werin Gymraeg "Hen Ferchetan" mewn cyngerdd yno, ac ymweld â'r Cremlin. Sefydlodd y daith hon gysylltiad pwysig â'r wlad, a dychwelodd Beryl yno ym 1960 gyda'r cyfansoddwyr Daniel Jones a Meirion Williams, y dramodydd John Griffiths o Abertawe a'r darlithydd hanes Emrys Jenkins. Cafodd hefyd y cyfle i gwrdd â'r pypedwr enwog Sergey Obraztsov. Bu ar sawl ymweliad â'r wlad, weddill ei gyrfa.[2]
Cyfnod Llundain
[golygu | golygu cod]
Dechreuodd ei gyrfa broffesiynol yn Llundain, wedi iddi weld hysbyseb ym mhapur newydd The Stage. Ei chynhyrchiad cyntaf oedd pantomeim o'r enw Sinbad the Sailor yn Wolverhampton ym 1961/62 a roddodd iddi gerdyn [hawl i actio] Equity. Dilynwyd hynny gan ran yn y llwyfaniad cyntaf Prydeinig o'r sioe gerdd The Music Man yn Theatr yr Adelphi, Llundain ym 1962, ac ar daith wedi hynny.
Ymunodd ag asiantaeth darparu ychwanegolion [extras] neu actorion cefndir ar gyfer ffilmiau a dramâu teledu yn Llundain, a chafodd rannau cefndir mewn ffilmiau fel The Horse without a Head (1963) a Tom Jones (1963) gydag Albert Finney.

Dychwelodd i'r theatr ym 1963, yn y llwyfaniad cyntaf yn y West End o'r sioe gerdd Pickwick gyda Harry Secombe a'i choreograffu gan Gillian Lynne, a fu'n gyfrifol yn ddiweddarch am sioeau enwog Andrew Lloyd Webber fel Cats, Phantom of the Opera ac Aspects of Love. Understudy i'r brif actores, a Chymraes arall, Jessie Evans oedd prif ddyletswydd Beryl, er iddi bortreadu cymeriadau eraill hefyd, yn ystod y sioe. Yn dilyn gwaeledd Jessie, cafodd y cyfle i bortreadu'r brif ran, am rai dyddiau.[2] Charlie Girl oedd y sioe gerdd nesaf iddi fod yn ran ohoni, a fu ar lwyfan Theatr Adelphi, Llundain ym 1965, a thra yn y sioe y mabwysiadodd Beryl a George y ci 'Ben', a ddaeth yn ran bwysig, maes o law, o'i bywyd ac ar lwyfannau Cymru! Tra yn y sioe yma yr enillodd Beryl ran yn y sioe gerdd Funny Girl oedd i fod i agor yn y West End ym 1966 gyda Barbra Streisand yn y brif ran. Ond yn anffodus, methwyd â'i rhyddhau o'i chytundeb gyda'r sioe Charlie Girl, ac felly ni chafodd y rhan.[2]
Yn y cyfnod yma hefyd y daeth i gysylltiad gyda Meredydd Evans a Jac Williams o BBC Cymru, a gynigiodd raglen iddi ar y sianel. Cafodd gyfweliad hefyd yn Llundain ar gyfer Cwmni Theatr Cymru oedd yn weithredol o 1965.[2]
Bywyd hwyrach
[golygu | golygu cod]Dychwelodd Beryl Hall a'i gŵr George i Gymru ym 1968, gan setlo yn Nwygyfylchi. Derbyniodd ragor o waith teledu yn Saesneg fel y gyfres The Odd Man trilogy - Mr Rose (1968) o waith y dramodydd Edward Bond a'r gyfres A Family at War (1971). Symudodd y teulu i Landudno ym 1970, a bu Beryl yn diddanu cynulleidfaoedd o ymwelwyr yng Nghastell Gwrych. Ym 1971, cyfarfu ag Wilbert Lloyd Roberts o Gwmni Theatr Cymru a gynigiodd ran iddi [a Ben y ci] yn eu pantomeim cyntaf, Mawredd Mawr. Bu ar ymweliad â'r UDA yn dilyn y pantomeim, cyn cael gwahoddiad i ymddangos ar raglen anifeiliaid talentog, Max Bygraves, gyda Ben. Cafodd y cyfle i ail-bortreadu'r "frenhines" yn ail-bantomeim Cwmni Theatr Cymru Gweld Sêr ym 1972.
Teithiodd yn ôl i Rwsia, gan fynd â'r cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts efo hi, er mwyn trafod cyd-weithio a chyd-rannu talentau rhwng y ddwy wlad.[2]
Gyda dyfodiad S4C ym 1982, bu Beryl yn wyneb cyfarwydd ar sawl cyfres ddrama yn y blynyddoedd cynnar.
Roedd gan Beryl "ffydd" mawr "yn y goruwchnaturiol" a darddodd o gael ei gwellhau gan "Mrs Durrant" yn Llundain, pan yn ifanc. Trosglwyddodd ei ffydd i actorion a chantorion eraill, gan gynnwys Harry Secombe, a gyfeiriodd ati'n chwareus fel "the Welsh witch".[2]
Recordiau
[golygu | golygu cod]
Tra'n gweithio ar y sioe gerdd Pickwick ym 1964, fe ofynodd Harry Secombe i Beryl ganu'n unigol ar ei record Fireside Favourites, lle y canodd He's got the whole world in His hands. Roedd y record yn cynnwys holl gast y ddrama gerdd.[4]
Rhyddhawyd record ganddi ym 1977[5] yn ogystal â record gan 'Ben y ci' ym 1972.[3]
Cyhoeddwyd ei hunangofiant o dan y teitl Ymhith Y Sêr gan Wasg Tŷ Ar Y Graig.[2]

Ben y Ci
[golygu | golygu cod]Mabwysiadodd Beryl Hall ei chi 'Ben' pan oedd y ci yn ifanc, "mi sylwodd ei fod yn ufudd a deallus iawn ac yn dysgu’n dda," yn ôl Dilwyn yn ei flog Y Blog Recordiau Cymraeg, "...a dyma fynd ati i’w hyfforddi i berfformio a “chanu”. Erbyn heddiw, diolch i YouTube ac ati, mae recordiadau o anifeiliaid yn eithaf cyffredin, ond ‘nôl yn 1972 mae’n siŵr bod y record yma yn dra “gwahanol”. Mi ymddangosodd ar nifer o raglenni a pherfformio i gannoedd o bobl yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Max Bygraves a Harry Secombe. Cymysgedd o ddarnau byr o Ben yn canu i gerddoriaeth, a llais Beryl Hall yn sôn am Ben ydi’r record yma. Mi fyddai Beryl Hall yn llofnodi cefn y clawr", ychwanegodd.[3] Y gred lled-wybyddus oedd mai gwasgu ceilliau'r ci oedd yn gyfrifol am ei udo.[6]
Mae'r actor John Pierce Jones yn cofio perfformio yn y panto Gweld Sêr efo Beryl a Ben y ci ym 1972:
"Roedd y ci, Ben Hall, yn cydganu a'i feistres mewn un olygfa, ac am ryw reswm sydd y tu hwnt i mi, mynnodd Beryl fod Wynford [Ellis Owen], Dyfan [Roberts] a Dewi Pws i fod ar y llwyfan yn ystod ei chân efo'r ci. Camgymeriad dybryd. Roedd Wynff wedi ei wisgo fel tylwythen deg (Fairy Nyff) ac yn ystod y gân tynnai amryw o fân bethau o'i fag llaw, a gweu efo symudiadau doniol. Wrth gwrs, roedd hyn yn tynnu sylw'r gynulleidfa, a doedd Pws yntau ddim yn ddieuog o'r hyn y gellid ei alw'n 'ypstejio'? Roedd si ar led fod Beryl, ar ôl taenu ei chlogyn o gwmpas Ben fel nad oedd ond ei ben yn y golwg yn ystod y ddeuawd, yn gwasgu ei geilliau er mwyn iddo gyrraedd y nodau uchaf. Does gen i ddim prawf o gwbwl o hyn."[7]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Llwyfan
[golygu | golygu cod]- Sinbad the Sailor (1961) - pantomeim Theatr y Wolverhampton Grand
- The Music Man (1962) - Theatr Adelphi, Llundain
- Pickwick (1963) - Theatr Saville, Llundain
- Charlie Girl (1965) - Theatr Adelphi, Llundain
- Mawredd Mawr (1971) - pantomeim Cwmni Theatr Cymru
- Gweld Sêr (1972) - pantomeim Cwmni Theatr Cymru
- Two's Company (1979) yn Rwsia
Teledu
[golygu | golygu cod]- The Odd Man Trilogy - Mr Rose (1968) Teledu Granada
- Cadw Cwmni (1970) BBC Cymru
- A Family At War (1971) Teledu Granada
- Rhwng Gŵyl a Gwaith (1974) BBC Cymru
- Childhood (1974)
- The District Nurse (1987)
- Minafon
- Gwynfyd (1992)
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Click here to view the tribute page for BERYL HALL". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-19.
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 Williams, Mair Elynned (1981). Ymhith y Sêr (Atgofion Beryl Hall). Tŷ ar y Graig.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Ben, Y Ci Sy'n Canu". Y Blog Recordiau Cymraeg. 2019-09-07. Cyrchwyd 2024-09-08.
- ↑ "Harry Secombe Fireside Favourites UK Vinyl LP". RareVinyl.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-05.
- ↑ "Record Beryl Hall".
- ↑ Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.
- ↑ Jones, John Pierce (2014). Yr Hen Ddyddiadau. Gwasg Carreg Gwalch.