The Monkees

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
The Monkees
The Monkees yn 1966.
Gyda'r cloc o'r top-chwith: Peter Tork, Micky Dolenz, Michael Nesmith, Davy Jones
Y Cefndir
Lleoliad Los Angeles, Califfornia, U.D.A.
Math o Gerddoriaeth
  • Pop roc
  • Pop seicadelic
Cyfnod perfformio
  • 1966–presennol
Label
  • Colgems
  • RCA Victor
  • Bell
  • Arista
  • Rhino
Perff'au eraill
  • Dolenz, Jones, Boyce & Hart
  • First National Band
  • The Monkees Present: The Mike and Micky Show
Gwefan monkees.com
Aelodau
Cyn-aelodau

Band roc a pop oedd The Monkees a fu'n weithgar yn wreiddiol rhwng 1966 ac 1971, gyda aduniad a theithiau yn y degawdau wedi hynny. Fe'i ffurfiwyd yn Los Angeles yn 1965 gan Bob Rafelson a Bert Schneider yn benodol ar gyfer y gyfres teledu Americanaidd The Monkees, a ddarlledwyd rhwng 1966 a 1968. Y pedwarawd o actorion cerddorol oedd yr Americanwyr Micky Dolenz, Michael Nesmith, a Peter Tork; a'r canwr ac actor Seisnig Davy Jones. Goruchwyliwyd cerddoriaeth y band yn wreiddiol gan Don Kirshner, gyda chefnogaeth gan y ddeuawd ysgrifennu caneuon 'Boyce and Hart'.

Ar y cychwyn, bach iawn oedd cyfraniad y pedwar actor-gerddor yn y stiwdio recordio am y misoedd cyntaf yn ei gyrfa pum mlynedd fel y "Monkees". Roedd hyn yn rhannol oherwydd yr amser oedd angen i ffilmio'r gyfres deledu.[1] Er hyn, gwnaeth Nesmith cyfansoddi a chynhyrchu rhai caneuon o'r cychwyn, a cyfrannodd Tork ychydig bach o waith gitâr ar y sesiynau gynhyrchwyd gan Nesmith. Cyfranodd y pedwar prif leisiau i wahanol draciau. Yn y diwedd, brwydrodd y pedwar i gael yr hawl i oruwchwylio yr holl gynnyrch cerddorol dan enw'r band, yn gweithio fel cerddorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynhyrchwyr.

Wedi i'r sioe deledu ddod i ben yn 1968, parhaodd y Monkees recordio cerddoriaeth hyd 1971, pan chwalodd y grŵp. Daeth adfywiad o ddiddordeb yn y band yn 1986, a arweiniodd at gyfres o deithiad aduniad a recordiau newydd. Mae'r grŵp wedi aduno a theiio sawl gwaith ers hynny gyda gwahanol aelodau a gwahanol raddau o lwyddiant. Bu farw Jones yn Chwefror 2012 a bu farw Tork yn Chwefror 2019. Mae Dolenz a Nesmith yn parhau fel aelodau gweithredol o'r grŵp.

Disgrifiodd Dolenz The Monkees i ddechrau fel "sioe deledu am fand dychmygol.. oedd eisiau bod fel y Beatles ond byth yn llwyddiannus".[2] Yn eironig, arweiniodd llwyddiant y sioe at yr actor-gerddorion i ddod yn un fandiau mwyaf llwyddiannus y 1960au. Mae'r Monkees wedi gwerthu mwy na 75 miliwn o recordiau yn fyd-eang[3][4] gan eu wgendu yn un o'r grwpiau a werthodd fwyaf erioed gyda caneuon poblogaidd rhyngwladol, fel "Last Train to Clarksville", "Pleasant Valley Sunday", "Daydream Believer", ac "I'm a Believer". Adroddwyd mewn papurau newydd a chylchgronau fod y Monkees wedi gwerthu fwy na'r Beatles a'r Rolling Stones gyda'i gilydd yn 1967,[5][6] ond honnodd Nesmith yn ei hunangofiant Infinite Tuesday mai celwydd oedd hynny, a ddywedodd ef wrth newyddiadurwr.[7]

Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Monkees (1966)
  • More of The Monkees (1967)
  • Headquarters (1967)
  • Pisces, Aquarius, Capricorn & Jones Ltd. (1967)
  • The Birds, The Bees & the Monkees (1968)
  • Head (1968)
  • Instant Replay (1969)
  • The Monkees Present (1969)
  • Pool It! (1987)
  • Justus (1996)
  • Good Times! (2016)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]