Pibydd y dorlan

Oddi ar Wicipedia
Pibydd y Dorlan
Pibydd y Dorlan ger Llyn Aled Isaf, Mynydd Hiraethog
Statws cadwraeth

Pryder lleiaf (IUCN 3.1)[1]
Ffeil sain a recordiwyd yn yr Alban
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Actitis
Rhywogaeth: A. hypoleucos
Enw deuenwol
Actitis hypoleucos
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Tringa hypoleucos

Actitis hypoleucos

Aderyn sy'n aelod o deulu'r rhydyddion yw Pibydd y Dorlan (Actitis hypoleucos). Mae'n aderyn mudol, yn nythu ar draws rhan helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica, de Asia ac Awstralia.

Mae'r aderyn yn 18–20 cm o hyd, a 32–35 cm ar draws yr adenydd. Mae ganddo gefn llwyd a bol gwyn. Eu prif fwyd yw unrhyw greaduriad bychain sy'n byw ar y mwd o gwmpas y glannau neu yn y dŵr. Mae'n nythu ar lawr. gerllaw afonydd a llynnoedd.

Actitis hypoleucos

Yng Nghymru, mae Pibydd y Dorlan yn nythu o gwmpas llynnoedd ac afonydd ar yr ucheldiroedd yn bennaf, a gall fod yn weddol gyffredin. Yn y gwanwyn ac wedi diwedd y tymor nythu, fe'i gwelir ger glannau aberoedd. Ceir ambell un yn treulio'r gaeaf yma.

Enwau ar lafar, Cymru a'r Gororau[golygu | golygu cod]

  • sneipen yr haf
  • pibydd y traeth (sir Fôn) [gweler sanderling]
  • giach yr haf
  • snipen yr haf
  • wil dŵr (Blaenau Ffestiniog)
  • tywod ganwr cyffredin (Llandysul)
  • shad-bird (pysgotwyr afon Hafren oherwydd iddo gyrraeddar ddechrau tymor pysgota gwangod[2]

Cyfeiriadu[golygu | golygu cod]