Peter Wynn Thomas
Gwedd
| Peter Wynn Thomas | |
|---|---|
| Ganwyd | Awst 1957 |
| Bu farw | 2007 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ieithydd, academydd, ysgrifennwr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Gramadeg y Gymraeg |
Ieithydd sy'n arbenigwr ar hanes y Gymraeg a'i gramadeg yw'r Dr Peter Wynn Thomas (ganwyd Awst 1957). Mae'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Ei waith mawr yw Gramadeg y Gymraeg, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "y dadansoddiad llawnaf a thrylwysaf a fu erioed o'r Gymraeg." Mae'n gyfrol arloesol am ei bod yn ymdrin ag amrywiadau arddulliadol yr iaith, yn ffurfiol ac anffurfiol, fel iaith lafar ac fel iaith lenyddol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- (gyda Beth Thomas), Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno'r Tafodieithoedd (Caerdydd: Gwasg Taf, 1989)
- Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)
- (gol. gyda Sioned Davies), Canhwyll Marchogyon (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)