Peter Pan (cymeriad)
| Enghraifft o: | bod dynol ffuglennol, cymeriad llenyddol, cymeriad ffilm, cymeriad teledu |
|---|---|
| Crëwr | J. M. Barrie |
| Dyddiad cyhoeddi | 1911 |
| Genre | ffantasi |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |

Cymeriad ffuglennol a grëwyd gan y nofelydd a'r dramodydd o'r Alban J. M. Barrie yw Peter Pan. Mae Peter Pan yn fachgen direidus a bywiog sy'n gallu hedfan a byth yn tyfu i fyny, ac mae'n treulio ei ieuenctid di-ddiwedd yn mynd ar anturiaethau ar ynys fytholegol o'r enw 'Neverland' yn arwain y Bechgyn Colledig ac yn cymdeithasu neu ymrafael gyda thylwyth teg, môr-ladron, môr-forwynion, Americaniaid brodorol, ac yn achlysurol blant o'r byd y tu hwnt i Neverland.
Mae Peter Pan wedi dod yn symbol o ddiniweidrwydd ieuenctid a dihangdod. Mae'n gymeriad mewn dau brif waith gan Barrie - y nofel The Little White Bird, a gyhoeddwyd yn 1902 a'r ddrama Peter Pan, or The Boy Who Wouldn't Grow Up, a lwyfannwyd am y tro cyntaf yn 1904. Cafodd y penodau o The Little White Bird a oedd yn cynnwys Peter Pan eu cyhoeddi ar wahân yn 1906 o dan y teitl Peter in Kensington Gardens, a chafodd y ddrama ei haddasu a'i datblygu i'w chyhoeddi fel nofel o dan y teitl Peter and Wendy yn 1911. Ers hynny, mae'r cymeriad wedi bod yn destun i nifer o weithiau mewn gwahanol gyfryngau, gan gynnwys ffilm animeiddiedig yn 1953, ffilm gydag actorion byw yn 2003, a chyfres deledu.
- Cerfluniau o Peter Pan
- St. John's, Canada
- Parc Egmont, Brwssel, Gwlad Belg
- Sefton Park, Lerpwl
- Ysbyty Great Ormond Street
- Parc Carl Schurz, Efrog Newydd