Peter Grant

Oddi ar Wicipedia
Peter Grant
Peter Grant


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Lindsay Roy
Y Blaid Lafur

Geni 1961
Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Glenrothes
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Fiona (meddyg)
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Peter Grant (ganwyd 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Glenrothes; mae'r etholaeth yn Fife, yr Alban. Mae Peter Grant yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganed yn Coatbridge, Gogledd Swydd Lanark, Yr Alban yn 1961 i deulu a oedd yn draddodiadol wedi pleidleisio i'r Blaid Lafur. Symudodd i dref Glenrothes yn 1982, ble etholwyd ef ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban yn gynghorydd sir yn yr un flwyddyn. Bu'n arweinydd Cyngor Fife am 5 mlynedd.

Mae'n mwynhau cerddoriaeth ac yn chwarae'r fiolin ers ei blentyndod; diddordeb arall ganddo yw chwarae 'bôls' ac mae'n gadeirydd Clwb Bowlio Leslie.

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Peter Grant 28459 o bleidleisiau, sef 59.8% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 38.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 13897 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  2. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban