Peter Benenson
| Peter Benenson | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Gorffennaf 1921 Llundain |
| Bu farw | 25 Chwefror 2005 o niwmonia Rhydychen |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, amddiffynnwr hawliau dynol, cyfreithegwr |
| Swydd | Secretary-General of Amnesty International |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Mam | Flora Solomon |
| Gwobr/au | Dyneiddiwr y Flwyddyn |
Gweithredwr dros hawliau dynol o Loegr oedd Peter Benenson (31 Gorffennaf 1921 – 25 Chwefror 2005). Sefydlodd Amnest Rhyngwladol yn 1961 ar ôl darllen erthygl am garcharu dau fyfyriwr ym Mhortiwgal a oedd wedi cynnig llwncdestun i "Ryddid".
Ymgyrch blwyddyn oedd ganddo mewn golwg i ddechrau ond fe dyfodd yn fudiad gyda mwy na 1.8 miliwn o aelodau erbyn heddiw
Roedd yn ŵyr i Grigori Benenson, bancwr Rwsieg-Iddewig ac yn fab i Flora a John Solomon.
Ar ôl cael gwersi preifat gan W. H. Auden cafodd ei addysg yn Eton a Phrifysgol Rhydychen. Mor ifanc a 16 mlwydd oed bu'n ymgyrchu yn ei ysgol am gefnogaeth i helpu plant amddifad gweriniaethwyr Rhyfel Cartref Sbaen.
Peidiodd Benenson a bod yn arweinydd Amnest ar ôl i ymchwiliad annibynnol fethu a chadarnhau ei gred fod heddlu cudd Prydeinig yn dod yn aelodau o'r mudiad.