Balcanau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Penrhyn y Balcanau)
Y Balcanau

Rhanbarth yn ne-ddwyrain Ewrop sy'n cynnwys tiriogaeth gwledydd presennol Gwlad Groeg, Albania, Gogledd Macedonia, Serbia, Montenegro, Bosnia-Hertsegofina, Croatia, Bwlgaria, Rwmania a rhan Ewropeiadd Twrci yw'r Balcanau. Mae ganddo arwynebedd tir o 550,000 km² ac mae tua 55 miliwn o bobl yn byw yno. Yr enw am orynys y Balcanau yn Hen Roeg oedd Gorynys Haemus (Χερσόνησος του Αίμου). Enwir y rhanbarth ar ôl Mynyddoedd y Balcanau, sy'n rhedeg trwy ganol Bwlgaria i mewn i ddwyrain Serbia.

Cefndir hanesyddol[golygu | golygu cod]

Daeth y rhan fwyaf o'r Balcanau yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ac yna'n rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd o'r 5g ymlaen. Daeth y Balcanau dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaid o'r 15g hyd y 19g a dechrau'r 20g. Enillodd Gwlad Groeg ei hannibyniaeth yn 1829 ac fe'i dilynwyd gan Serbia (1878), Rwmania (1878), Bwlgaria (1908) ac Albania (1912). Roedd y cystadlu rhwng y pwerau mawr Ewropeaidd am reolaeth ar yr ardal yn un o'r ffactorau pennaf a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918). Daeth Iwgoslafia'n wlad ffederal sosialaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac roedd gweddill y gwledydd Balcanaidd (ac eithrio Gwlad Groeg a Thwrci) yn wladwriaethau comiwnyddol hyd cwymp y Llen Haearn a Rhyfeloedd y Balcanau.

Cefndir diwylliannol[golygu | golygu cod]

Mae hunaniaeth y Balcanau yn cael ei ffurfio gan ei lleoliad daearyddol; saif ar groesffordd hanesyddol sydd wedi bod yn dyst i sawl pobl a diwylliannau. Mae wedi bod yn fan cyfarfod i rhannau Lladin a Groeg yr Ymerodraeth Rufeinig ac yn ffin rhyngddynt, yn gyrchfan i fewnlifiad anferth o bobloedd Slaf paganaidd, yn fan cyfarfod Cristnogaeth Orllewinol ac Uniongred, yn ogystal â bod yn fan cyfarfod i Islam a Christnogaeth. Gwelai yn ogystal nifer fawr o ffoaduriaid Iddewig yn ffoi'r Chwil-lys. Mae nifer uchel o Romani yn byw yno hefyd.

Cefndir ieithyddol[golygu | golygu cod]

Mewn canlyniad i hyn oll mae'r Balcanau heddiw yn rhanbarth o amrywiaeth ethno-ieithyddol sylweddol, ac yn gartref i sawl iaith Slafig, Romáwns, a Twrcaidd, yn ogystal â'r iaith Roeg, Albaneg, ac ieithoedd eraill. Yn y cyfnodau cynhanesyddol ac egin-hanesyddol mae nifer o grwpiau ethnig eraill â'i hieithoedd unigryw eu hunain, wedi byw yn y rhanbarth yn ogystal, yn cynnwys y Celtiaid (e.e. y Galatiaid), yr Ilyriaid, yr Avariaid, y Vlachiaid, y Germaniaid a sawl llwyth Germanaidd arall.

Poblogaeth yn ôl cenedligrwydd a chrefydd[golygu | golygu cod]

Balcanau, 2011

Cenedligrwydd a thras[golygu | golygu cod]

Ceir pobl o genedligrwydd amrywiol yn y Balcanu, yn cynnwys (m = miliwn):

Crefydd[golygu | golygu cod]

Prif grefyddau'r rhanbarth yw Cristnogaeth (Uniongred Dwyreiniol a Chatholig) ac Islam. Ymarferir sawl traddodiad o'r ddwy ffydd, ac mae gan pob un o'r gwledydd Uniongred ei heglwys genedlaethol eu hunain.

Cristnogaeth Uniongred Ddwyreiniol yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:

Catholigiaeth Rufeinig yw pryf grefydd y gwledydd canlynol:

Islam yw prif grefydd y gwledydd canlynol:

Yn y gwledydd canlynol ceir nifer sylweddol o bobl (dros 10% o'r boblogaeth) sy'n perthyn i grefyddau lleiafrifol:

  • Albania: Uniongred Ddwyreiniol, Catholigiaeth.
  • Bosnia-Hertsegofina: Mae'r rhan fwyaf o'r Bosniacs yn Fwslimiaid, mae'r Serbiaid yn perthyn i Eglwys Uniongred Serbia a'r Croatiaid yn Gatholigion.
  • Bwlgaria: Islam.
  • Croatia: Serbiaid Uniongred.
  • Gogledd Macedonia: Albaniaid Mwslimaidd.
  • Montenegro: Albaniaid a Bosniacs Mwslimaidd.
  • Serbia: Albaniaid a Bosniacs Mwslimaidd; Hwngariaid, Slofaciaid a Croatiaid Catholig.

Cyfeiriadau a darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Banac, Ivo. 'Historiography of the Countries of Eastern Europe: Yugoslavia', American Historical Review, v 97 #4 (Hydref 1992), 1084-1104.
  • Banac, Ivo. The National Question in Yugoslavia: Origins, History, Politics. Cornell University Press, 1984.
  • Carter, Francis W., gol. An Historical Geography of the Balkans. Academic Press, 1977.
  • Dvornik, Francis. The Slavs in European History and Civilization. Rutgers University Press, 1962.
  • Fine, John V. A., Jr. The Early Medieval Balkans: A Critical Survey from the Sixth to the Late Twelfth Century [1983]; The Late Medieval Balkans: A Critical Survey from the Late Twelfth Century to the Ottoman Conquest. Ann Arbor: University of Michigan Press, [1987].
  • Jelavich, Barbara. History of the Balkans, 2 gyf. Cambridge University Press, [1983].
  • Jelavich, Charles, a Jelavich, Barbara, gol. The Balkans in Transition: Essays on the Development of Balkan Life and Politics since the Eighteenth Century. University of California Press, 1963.
  • Király, Béla K., gol. East Central European Society in the Era of Revolutions, 1775-1856. 1984
  • Mazower, Mark, The Balkans: A Short History, 2000
  • Traian Stoianovich, Balkan Worlds: The First and Last Europe 1994.
Chwiliwch am Balcanau
yn Wiciadur.