Pennant Roberts

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pennant Roberts
Ganwyd John Pennant Roberts
15 Rhagfyr 1940(1940-12-15)
Weston-super-Mare, Lloegr
Bu farw 22 Mehefin 2010(2010-06-22) (69 oed)
Caerdydd
Achos marwolaeth cancr
Gwaith Cyfarwyddwyr teledu

Cyfarwyddwr Cymreig oedd Pennant Roberts (15 Rhagfyr 194022 Mehefin 2010[1]) a oedd yn nodedig am ei waith ar deledu Prydeinig.

Ganwyd Roberts  yn Weston-super-Mare i rieni Cymreig. Gweithiodd ar y rhaglenni BBC canlynol: Softly, Softly, Doomwatch, The Onedin Line, Sutherland's Law, Survivors, Angels, Blake's 7, Doctor Who, Juliet Bravo, Tenko a Howards' Way. Priododd yr actores Betsan Jones yn 1970 a daeth i siarad Cymraeg yn rhugl.[2] Symudodd i Gaerdydd yn 1994 a daeth yn weithgar yn yn y diwydiant teledu Cymreig gan gyfarwyddo cynhyrchiadau i'r BBC a HTV. Cynhyrchodd ddramau ar gyfer Theatr y Sherman.[3]

Roedd Roberts yn weithgar o fewn y Gymdeithas Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr, ac yn gadeirydd ar y corff am sawl blwyddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]