Penmaenmawr Quarry Boys
Roedd y Penmaenmawr Quarry Boys yn grŵp o filwyr o dref Penmaenmawr (Sir Conwy) a ymunodd â'r fyddin Brydeinig gyda'i gilydd ym mis Awst 1914 fel rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth y cwmni i ben pan laddwyd y rhan fwyaf ohonynt wrth lanio ym mae Suvla yn Nhwrci ym Mrwydr Gallipoli.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlu'r Cwmni[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd y criw yma o chwarelwyr o chwarel Penmaenmawr eisoes wedi bod yn gwirfoddoli fel rhan o'r Fyddin Diriogaethol o dan arweiniad y tirfeddianwr lleol Lt Col Charles Henry Darbishire[1], perchennog y Penmaenmawr & Welsh Granite Company, cyflogwr mwyaf ardal Penmaenmawr a Llanfairfechan. Wedi iddynt enlistio daethant yn rhan o gwmni'r 'Penmaenmawr Company', yn 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Diwedd y Cwmni[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd y gwŷr o Benmaenmawr yn rhan o'r 53rd (Welsh) Division a ymosododd ar Fae Suvla ar yr 8fed o Awst 1915. Roedd y glaniad ar fae Suvla yn drychineb[2] a diswyddwyd y cadlywydd Sir Frederick Stopford yn fuan wedi hynny.[3] Bu farw y rhan fwyaf o'r milwyr o Benmaenmawr a daeth y cwmni i ben.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gallipoli Association
- (Saesneg) Eitem ar wefan BBC Cymru
- (Saesneg) Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig