Neidio i'r cynnwys

Pen Caer (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia

Un o ddau gwmwd yng nghantref Pebidiog, yn nheyrnas Dyfed, oedd Pen Caer. Fe'i enwir ar ôl y penrhyn o'r un enw, Pen Caer, yng ngogledd Sir Benfro.

Gorweddai Pen Caer yn rhan dwyreiniol cantref Pebidiog gyda arfordir hir creigiog yn y gogledd. Ffiniai â Mynyw, ail gwmwd Pebidiog i'r gorllewin, cwmwd Uwch Nyfer (cantref Cemais) i'r dwyrain, a rhannau o gantrefi Daugleddau a Rhos i'r de.

Cwmwd Pen Caer yng nghantref Pebidiog (gwyrdd tywyll), i'r dwyrain o gwmwd Mynyw

Roedd y prif ganolfannau yn cynnwys Casmorys, Llanwnda, Mathri a Maenorowen. Roedd yn rhan o deyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol Cynnar ac wedyn yn rhan o Ddeheubarth cyn syrthio i'r Normaniaid am gyfnod.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.