Paul Hymans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Paul Hymans
Paul Hymans 01.jpg
Ganwyd 23 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata
Ixelles Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Mawrth 1941 Edit this on Wikidata (75 oed)
Nice Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
Alma mater
  • Prifysgol Brwsel Am Ddim Edit this on Wikidata
Galwedigaeth academydd, Gwleidydd, diplomydd, Cyfreithegwr, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd member of the Chamber of Representatives of Belgium, minister of Foreign Affairs in Belgium, llysgennad Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Liberal Party Edit this on Wikidata
Gwobr/au Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes Urdd y Goron, Urdd yr Eryr Gwyn, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir, Grand Cross of the Order of Vasa, Urdd y dair Seren, Dosbarth 1af, Grand Cross of the Order of the Star of Romania, Grand Cordon of the Order of Leopold, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Order of Prince Danilo I, 1st class, Nishan Mohamed Ali, Order of the Star of Ethiopia, Uwch Croes Urdd Siarl III, Knight Grand Cross in the Order of the Netherlands Lion, Grand Cross of the Order of Adolphe of Nassau, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Prif Ruban Urdd y Wawr, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Uwch Groes Urdd Crist (Portiwgal), Grand Cross of the Order of the White Eagle, Marchog Uwch Groes Urdd Sant Grigor Fawr, Knight Grand Cross of the Order of Saint Stephen of Hungary, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Knight Grand Cross of the Order of Saints Maurice and Lazarus, Urdd dros ryddid, Order of Skanderbeg, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Roedd Paul Louis Adrien Henri Hymans, neu'n fwy cyffredin Paul Hymans (Ganer Ixelles/Elsene 23 Mawrth, 1865 - marw, Nice, 8 Mawrth 1941) yn wleidydd o Wlad Belg a oedd yn gysylltiedig â'r Blaid Ryddfrydol. Ef oedd ail Lywydd Cynghrair y Cenhedloedd, a dychwelodd i wasanaethu fel Llywydd yn y blynyddoedd 1932-33.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth yn gyfreithiwr a darlithydd ym Mhrifysgol Rydd Brwsel. Fel gwleidydd penodwyd yn Weinidog Materion Tramor Gwlad Belg o 1918 tan 1920 (ac eto o 1927 i 1935), yn Weinidog Cyfiawnder o 1926 i 1927, ac yn aelod o Cyngor y Gweinidogion o 1935 i 1936 Ym 1919, ynghyd â Charles de Broqueville ac Emile Vandervelde, cyflwynodd bleidlais gyffredinol i bob dyn (dyn, pleidlais) ac addysg orfodol.

Wedi'r Rhyfel Mawr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n cynrychioli Gwlad Belg yng Nghynhadledd heddwch Paris, 1919-1920. Daeth niwtraliaeth Gwlad Belg i ben a daeth y cyntaf yn y ciw i dderbyn iawndal gan yr Almaen am y Rhyfel. Serch hynny, dim ond darn bychan o dir Almaenig yr enillodd Gwlad Belg wedi'r Rhyfel a gwrthodwyd ei galwad am i'r cyfan o Lwcsembwrg a rhan o'r Iseldiroedd gael eu gwobrwyo i'r wlad, ond fe enillodd Gwlad Belg reolaeth mandad dros drefeigaethau Almaenig Rwanda a Burundi yng Nghanolbarth Affrica.

Helpodd Paul Hymans ffurfio undeb tollau Gwlad Belg a Lwcsembwrg (Undeb Economaidd Gwlad Belg-Lwcsembwrg) yn 1921 (a barhaodd nes 1972 a'i ddiwedaru eto yn 1982 a thrachefn yn 1992) a chwaraeodd ran bwysig yn y broses o negodi Cynllun Dawes ym 1924. Yn 1928, llofnododd y Cytundeb Briand-Kellogg ar gyfer Gwlad Belg.

Rhwng 1920 ac 1921 ac o 1932 hyd 1933 bu'n Llywydd Cynghrair y Cenhedloedd ac yn 1914 fe'i benodwyd yn weinidog Gwladol. O 1924 i 1925, o 1927 i 1934 ac o 1934 i 1935 yr oedd unwaith eto'n Weinidog Materion Tramor, o 1926 i 1927 yn Weinidog Cyfiawnder ac o 1935 hyd 1936 Gweinidog Heb Bortffolio. Fel Gweinidog Tramor cwblhaodd gytundeb milwrol gyda Ffrainc

Roedd yn Brotestant, yn aelod o'r Seiri Rhyddionsaer maen, ac yn aelod o gyfrinfa Les Amis Philanthropes yn Grand Orient Belgique ym Mrwsel.

Claddwyd Paul Hymans ym mynwent Ixelles ym Mrwsel.

Hymans a Mudiad Cenedlaethol Fflemeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hymans yn elyniaethus i'r Frontbeweging (Mudiad y Ffrynt) mudiad a dyfwyd gan ddeallusion Fflemeg yn ystod y Rhyfel Mawr oedd yn galw am hawliau ieithyddol, cyfansoddiadol a diwylliannol i siaradwyr Iseldireg Fflandrys. Roedd hefyd yn gwrthwynebu amnest ar gyfer gweithredwyr, rhyddhau August Borms (oedd o blaid cydweithio gyda'r Almaenwyr i ennill hawliau cenedlaethol i'r Fflemiaid). Roedd Hymens yn erbyn gwireddu'r Minimumprogram Fflemaidd - sef y galwadau mwyaf sylfaenol i'r iaith ac hunaniaeth Fflemeg yng Nglwad Belg, sef, rhaglen van Cauwelaert´s o statws uniaith Iseldireg i Fflandrys; a pheth hunanlywodraeth i Fflandrys.[1][2]

Paul Hymans a Chymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymatebodd Hymans i Neges Heddwch ac Ewyllus Da Cymru i'r Byd 1925 a drefnwyd gan Gwilym Davies ac Undeb Cymru o Gynghrair y Cenhedloedd.[3] a sydd, ers yr 1950au, yn cael eu drefnu gan yr Urdd.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]