Patrick Grady

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Patrick Grady
Patrick Grady


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020

Geni (1980-02-05) 5 Chwefror 1980 (39 oed)
Caeredin, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Gogledd Glasgow
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan patrickgrady.scot

Gwleidydd o'r Alban yw Patrick Grady (ganwyd 5 Chwefror 1980) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ogledd Glasgow, yr Alban. Mae Patrick yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin, ble mae'n Llefarydd dros Ddatblygiadau Rhyngwladol.

Fe'i ganwyd yn Nghaeredin a'i fagu yn Inverness.[1] Gweithiodd fel rheolwr eiriolaeth i'r Eglwys Babyddol yn yr Alban, Llundain ac ym Malawi am rai blynyddoedd cyn 2015.

Ymunodd gyda'r SNP yn 1997 pan oedd yn 17 oed, ac ef oedd arweinydd yr ymgyrch dros Annibyniaeth yn ardal Kelvin, Glasgow yn ystod Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014.[2]

Etholiad 2015[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Patrick Grady 19610 o bleidleisiau, sef 53.1% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 41.2 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9295 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]