Park House, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Park House
Park House (16939542687).jpg
Math , clwb Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad canol dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4849°N 3.1756°W Edit this on Wikidata
Manylion
Arddull pensaernïol Yr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata

Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Park House (a alwyd hefyd yn McConnochie's House[1] a Burges House[2]). Fe'i gynlluniwyd gan y pensaer William Burges ar gyfer John McConnochie, peiriannydd o'r Alban a fu'n gweithio i Ardalydd Bute yn nociau Caerdydd. Comisiynwyd Burges ym 1871 ond ni orffenwyd addurno'r tu fewn nes i McConnochie gael ei benodi'n Faer Caerdydd ym 1880.[1] Cymlluniwyd y tŷ yn yr arddull Gothig Ffrengig, a chafodd ddylanwad mawr ar bensaernïaeth tai Caerdydd.[3] Seiliodd Burges sawl manylyn yn ei dŷ ei hun yn Llundain, Tower House yn Holland Park, ar yr adeilad hwn. Ym marn yr hanesydd pesaernïol Henry-Russell Hitchcock, Park House oedd "one of the best medium-sized stone dwellings of the High Victorian Gothic".[4] Caiff ei ddefnyddio bellach fel clwb preifat.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Crook 2013, t. 305
  2. (Saesneg) William Burges and Cardiff's Gothic Look. Cardiff Walking Tours. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2013.
  3. Newman 1995, tt. 218–9
  4. Hitchcock 1981, t. 267

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Crook, J. Mordaunt (2013). William Burges and the High Victorian Dream. Llundain: Frances Lincoln.
  • Hitchcock, Henry-Russell (1981). Architecture: Nineteenth and Twentieth Centuries. The Pelican History of Art. Harmondsworth: Penguin.
  • Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]