Parc Cenedlaethol W
Gwedd
| Math | parc cenedlaethol, gwarchodfa bïosffer, ardal gadwriaethol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | W-Arly-Pendjari Complex |
| Lleoliad | Niger |
| Gwlad | Benin, Niger, Bwrcina Ffaso |
| Arwynebedd | 10,182.8 km² |
| Cyfesurynnau | 12°N 2.5°E |
![]() | |
| Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Parc cenedlaethol mawr yng ngorllewin Affrica yw Parc Cenedlaethol W (Ffrangeg: "W" du Niger). Fe'i lleolir o gwmpas ymddoleniad ar Afon Niger o siâp "W". Tra bod y rhan fwyaf o'r parc yn gorwedd yn Niger, mae rhannau ohono yn gorwedd yn Benin a Bwrcina Ffaso yn ogystal. Ychydig iawn o bobl sy'n byw yn ei 10,000 km². Creuwyd y parc ar 4 Awst 1954.
Mae'r parc yn adnabyddus am ei famaliaid mawr, gan gynnwys aardvarks, babŵns, byffloau, caracaliaid, cheetahs, eliffantod, afonfeirch, llewpardau, llewod, servalau a warthogs.
Ychwanegwyd y parc at restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 1996.

