Panda Coch
| Panda Coch | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carnivora |
| Teulu: | Ailuridae |
| Genws: | Ailurus F. Cuvier, 1825 |
| Rhywogaeth: | A. fulgens |
| Enw deuenwol | |
| Ailurus fulgens F. Cuvier, 1825 | |
Mamal, herbiforaidd yn bennaf, sydd wedi arbenigo i fwyta bambŵ ac sydd i'w cael ym mynyddoedd Asia yw'r Panda Coch neu'r Panda Lleiaf (Lladin: Ailurus fulgens "cath ddisglair"). Mae'n rhywfaint mwy ei faint na cath ddomestig (hyd: 40 – 60 cm; pwysau: 3 – 6 kg). Cynefin naturiol y Panda Coch yw'r Himalaya yn Bhutan, Tibet, de Tsieina, India, Nepal, a hefyd yn Laos a Bwrma. Y Panda Coch yw anifail arwyddlunol talaith Indiaidd Sikkim a masgot gwyliau ardal Darjeeling. Amcangyfrifir fod llai na 2,500 o anifeiliaid hŷn yn byw yn y gwyllt erbyn hyn ac mae eu nifer dan fygythiad yn parhaol oherwydd araf golli eu cynefin naturiol.
Un o gadarnleoedd olaf y Panda Coch yw gogledd Sikkim lle ceir poblogaethau yn y mynyddoedd, dan lefel yr eira, e.e. yn ardal bwlch Nathu La a Llyn Tsomgo.
Maent yn hoff o fyw mewn coedwigoedd yn y mynyddoedd, rhwng 1,800-4,800 m neu 5000-15,700 troedfedd, lle ceir digon o lwyni rhododendron a bambŵ. Ar achlysur maent yn bwyta cig hefyd.