Neidio i'r cynnwys

Pamffled

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pamffledwr)
Wynebddalen The First Blast of the Trumpet against the Monstrous Regiment of Women gan y Sais John Knox (ailargraffiad o Philadelphia, 1776). Pan y cyhoeddwyd yn gyntaf gan Knox ym 1558, mae'n bosib taw hwn oedd y pamffled gwleidyddol cyntaf yng Ngwledydd Prydain.[1]

Cyhoeddiad byr neu lyfryn, yn enwedig un sy'n trafod pwnc dadleuol, yw pamffled.[2]

Yn hanesyddol bu'r pamffled yn gyfrifol am ledaenu syniadau crefyddol a gwleidyddol ar draws Ewrop a Gogledd America. Cychwynnodd yr oes bamffledu yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, ac yn y 16g roedd yn gysylltiedig â llenyddiaeth ffraethebion a dihirod a straeon am y pla yn ogystal â thraethodau crefyddol a gwleidyddol. Ymhlith pamffledwyr enwog y cyfnod yn Lloegr oedd Thomas Nashe, Thomas Dekker, Robert Greene a Martin Marprelate. Cyhoeddwyd miloedd o bamffledi yng Ngwledydd Prydain yn yr 17g, a rhai ohonynt o ansawdd lenyddol ragorol megis gweithiau John Milton. Cyhoeddwyd nifer ohonynt yn ddi-enw. Yn sgil yr Adferiad, adfywiogwyd cylchrediad pamffledi o natur enllibus (neu "hortlyfrau"), bradwrus, ac anllad. Parhaodd y traddodiad trwy'r 18g gan lenorion megis Daniel Defoe a Jonathan Swift, er i dwf cylchgronau a chyfnodolion wythnosol leihau'r galw am bamffledi.[1]

Ar ochr draw'r Iwerydd, cafodd y pamffled ddylanwad sylweddol ar y Chwyldro Americanaidd. Cyhoeddodd Thomas Paine Common Sense ychydig o fisoedd cyn Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ac ar ôl sefydlu'r wlad newydd lledaenodd syniadau ar sut i lunio'r cyfansoddiad trwy'r pamffled, a'r enghraifft amlycaf yw The Federalist Papers gan Alexander Hamilton, John Jay a James Madison. Yn Ffrainc defnyddiodd Voltaire, Rousseau, Montesquieu a Diderot bamffledi i gyhoeddi syniadau'r Oleuedigaeth trwy ddisgwrs a dadl resymedig. Wedi'r Chwyldro Ffrengig, daeth y pamffled unwaith eto yn erfyn y polemegydd.[3] Cafodd y ffurf ei diwygio ym Mhrydain yn y 19g gan Fudiad Rhydychen ac yn hwyrach Cymdeithas y Ffabiaid.[1]

Ers dechrau'r 20g, defnyddir y pamffled i ledaenu gwybodaeth yn hytrach na syniadau, yn bennaf gan lywodraethau a sefydliadau addysgol.[3] Yn ôl y diffiniad modern gan UNESCO: "Mae pamffled yn gyhoeddiad argraffedig nad yw'n gyfnodolyn sydd o leiaf 5 ond nid yn fwy na 48 o dudalennau, heb gyfrif tudalennau'r clawr, ac wedi ei gyhoeddi mewn gwlad benodol ac ar gael i'r cyhoedd."[4]

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Benthycair o'r gair Saesneg pamphlet yw "pamffled" neu "pamfflet". Mae ffurfiau Cymraeg o'r gair yn dyddio'n ôl i'r 1660au.[2] Daw'r gair Saesneg o deitl cerdd serch Ffrengig yn yr iaith Ladin o'r 12g: Pamphilus, seu de Amore, neu yn Saesneg Pamphilet.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Birch, Dinah (gol.) The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 751–2.
  2. 2.0 2.1  pamffled. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) pamphlet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
  4. (Saesneg) Recommendation concerning the International Standardization of Statistics Relating to Book Production and Periodicals. UNESCO (19 Tachwedd 1964). Adalwyd ar 12 Hydref 2014. "A pamphlet is a non-periodical printed publication of at least 5 but not more than 48 pages, exclusive of the cover pages, published in a particular country and made available to the public"