Palflys boncyffion

Oddi ar Wicipedia
Palflys boncyffion
Barbilophozia attenuata
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Barbilophozia
Rhywogaeth: B. attenuata
Enw deuenwol
Barbilophozia attenuata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Palflys boncyffion (enw gwyddonol: Barbilophozia attenuata; enw Saesneg: trunk pawwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod drwy Gymru benbaladr, yr holl ffordd i fyny i Cumbria a Gogledd Lloegr, a ledled yr Alban. Yma ac acw, fe'i ceir hefyd yn Iwerddon.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'n tyfu fel wypyn o goesynnau bychain 0.5–1.5 mm o led, gyda dail (1 mm o led) wedi'u cywasgu'n dynn at ei gilydd. Mae gan y dail 3-llabed, ond anaml, ceir dail 2-llabed, ac mae'n wyrdd golau, fel gweddill y genws. Caiff Palflys boncyffion 2-llabed eu cymysgu, weithiau, gyda Anastrophyllum neu Lophozia.[1]

Cynefin[golygu | golygu cod]

Fel arfer, mae Palflys boncyffion, fel yr awgryma'r enw yn tyfu ar foncyff, yn enwedig y dderwen (Quercus), neu weithiau ar glwff o dywodfaen.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Palflys boncyffion gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 9 Mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.