Palflys barfog

Oddi ar Wicipedia
Palflys barfog
Barbilophozia barbata
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Barbilophozia
Rhywogaeth: B. barbata
Enw deuenwol
Barbilophozia barbata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Palflys barfog (enw gwyddonol: Barbilophozia barbata; enw Saesneg: bearded pawwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod drwy Gymru benbaladr, yr holl ffordd i fyny i Cumbria a Gogledd Lloegr, a ledled yr Alban. Yma ac acw, fe'i ceir hefyd yn Iwerddon.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Nodweddion amlycaf y Palflys barfog yw ei ddiffyg dannedd! Hynny yw, nid oes gan tan-wyneb y dail ddannedd, neu 'farf'; dyma tarddiad y gair barbata. O edrych yn fanwl, drwy chwyddwydr, yn unig y gwelir y diffyg hwn yn y dail. Fe'i hadnabyddir, fel arfer, yn y modd mae'r dail ifanc yn cywasgu'n fflat yn erbyn ei gilydd. Mae'r coesynnau tua 1–4 mm o led a'r dail yn 2 mm o led a hyd, ac yn felynwyrdd neu'n wyrdd brownaidd ac mae gan bob deilen 3 neu 4 llabed. Nid oes blagur i'w gweld.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Gall dyfu mewn amryw o gynefinoedd gwahanol, ar yr ucheldir, fel arfer ar graig, wal sych, neu mewn tywyrchen. mae'n aml yn tyfu lle ceir llysiau'r afu eraill. Yn ddiweddar, fe'i gwelwyd yn tyfu mewn hen chwarel ac ar dywyn ar yr arfordir.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Palflys barfog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 9 Mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.