Palais-Royal

Oddi ar Wicipedia
Palais-Royal
Gwybodaeth gyffredinol
LleoliadParis, Ffrainc
Cyfeiriad204 Rue Saint-Honoré, Place du Palais-Royal
Dechrau adeiladu1633
Gorffenwyd1639
Adferwyd1698–1700; 1719–1729; 1753–1779; 1782–1783; 1791–1793; 1828–1830
Cynllunio ac adeiladu
ClientCardinal Richelieu
Pensaer
  • Jacques Lemercier
  • Jules Hardouin-Mansart
  • Gilles-Marie Oppenord
  • Pierre Contant d'Ivry
  • Pierre-Louis Moreau-Desproux
Gwefan
domaine-palais-royal.fr/en/
Palais-Royal
Delwedd:Entrée du Conseil d'Etat, Paris 2010.jpg, Vue du Palais-Royal depuis son Jardin.jpg, Les Parisiens profitent du beau temps au Jardin du Palais-Royal.jpg
Enghraifft o'r canlynolpalas brenhinol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1628 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSalle Richelieu, Théâtre du Palais-Royal Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrCentre des monuments nationaux Edit this on Wikidata
Enw brodorolPalais-Royal Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthQuartier du Palais-Royal Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.domaine-palais-royal.fr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Palais-Royal yn un o gyn-balasau teulu brenhinol Ffrainc. Lleolir hi yn arrondissement 1af Paris, i'r gogledd o'r Louvre. Ei enw gwreiddiol oedd y Palais-Cardinal, ac fe'i adeiladwyd ar gyfer Cardinal Richelieu tua 1633 i 1639 gan y pensaer Jacques Lemercier. Gan i Philippe d'Orléans wneud newidiadau mawr dros y blynyddoedd, nid oes bron dim ar ôl o ddyluniad gwreiddiol Lemercier.

Mae'r Palais-Royal bellach yn cael ei ddefnyddio fel sedd y Weinyddiaeth Ddiwylliant, y Conseil d'État a'r Cyngor Cyfansoddiadol. Mae canol gardd y Palais-Royal (Jardin du Palais-Royal) yn barc cyhoeddus gyda siopau a thai bwyta mewn arcêd, a fflatiau uwchben.

Hanes[golygu | golygu cod]

Palais-Cardinal[golygu | golygu cod]

Y Palais-Cardinal, tua 1641

Yr enw gwreiddiol oedd y Palais-Cardinal, roedd y palas yn gartref personol i Cardinal Richelieu.[1] Dechreuodd y pensaer Jacques Lemercier ei ddyluniad yn 1629, dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1633 ac fe'i cwblhawyd yn 1639.[1] Dechreuwyd y gerddi yn 1629 gan Jean Le Nôtre (tad André Le Nôtre), Simon Bouchard, a Pierre I Desgots, i gynllun a grëwyd gan Jacques Boyceau. Pan fu farw Richelieu yn 1642 daeth y palas yn eiddo i'r Brenin, Louis XIII, a chafodd yr enw newydd Palais-Royal.[1]

Ar ôl marwolaeth Louis XIII y flwyddyn ganlynol, daeth yn gartref i Fam Frenhines Anne o Awstria a'i meibion ifanc Louis XIV a Philippe, duc d'Anjou,[2] ynghyd â'i chynghorydd Cardinal Mazarin.

Philippe I, Dug Orléans[golygu | golygu cod]

Philippe de France, duc d'Orléans,brawd bach Louis XIV
Cynllun safle cyffredinol (1692) gan François d'Orbay, yn dangos y gerddi a chafodd ei ail-ddylunio gan André Lenôtre tua 1674.

Priododd Henrietta Anne frawd iau Louis, Philippe de France, duc d'Orléans yng nghapel y palas ar 31 Mawrth 1661. Ar ôl eu priodas, caniataodd Louis XIV i'w frawd a'i wraig ddefnyddio'r Palais-Royal fel eu prif breswylfa ym Mharis. Y flwyddyn ganlynol, rhoddodd y Dduges newydd enedigaeth i ferch, Marie Louise d'Orléans. Hi creodd erddi addurniadol y palas, dywedir eu bod ymhlith y harddaf ym Mharis. Yng nghyfnod y pâr newydd, byddai'r Palais-Royal yn troi mewn i ganolfan gymdeithasol y ddinas.

Cafodd y palas ei ailaddurno a chrëwyd fflatiau newydd ar gyfer morynion a staff y Dduges. Tua 1674, gofynnodd Dug Orléans i André Lenôtre i ail-ddylunio gerddi'r Palais-Royal.[3]

Ar ôl i Henrietta Anne farw yn 1670 cafodd y Dug ail wraig, y Dywysoges Palatine. Yr oedd yn well ganddi fyw yn y Château de Saint-Cloud. Felly daeth Saint-Cloud yn brif breswylfa ei mab hynaf ac etifedd Tŷ'r Orléans, Philippe Charles d'Orléans a elwir y duc de Chartres.[4]

Heddiw[golygu | golygu cod]

Yn 2024, mae'r gerddi, a'r celf fodern sydd yn y Cour d'honneur yn atyniad twristaidd poblogaidd.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Horne, Alistair (2004). La Belle France. USA: Vintage. t. 131. ISBN 978-1-4000-3487-1.
  2. Parmele, Mary Platt (1906). A Short History of France. New York: C. Scribner's sons. tt. 142–143.
  3. Hazlehurst (1980). Gardens of Illusion, p. 189.
  4. Brother to the Sun king:Philippe, Duke of Orléans by Nancy Nicholas Barker