Owen Thompson

Oddi ar Wicipedia
Owen Thompson AS
Owen Thompson


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 8 Mehefin 2017

Geni (1978-03-17) 17 Mawrth 1978 (46 oed)
Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Midlothian
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Owen Thompson (ganwyd 17 Mawrth 1978) a oedd yn Aelod Seneddol dros Midlothian; mae'r etholaeth yn swydd Midlothian, yr Alban rhwng 2015 a 2017. Roedd Owen Thompson yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i magwyd yn Loanhead wedi iddo symud yno pan oedd yn saith oed.[1] Astudiodd cyfrifyddeg ac arianeg ym Mhrifysgol Napier, Caeredin.[2]

Gweleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n arweinydd Cyngor Swydd Midlothian wedi iddo gael ei ethol yn 2005.[3] Yn 27 oed, ef oedd y cynghorydd ieuengaf yn yr Alban ar yr adeg yma.[4]

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[5][6] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Owen Thompson 24,453 o bleidleisiau, sef 50.6% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +30.0 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9859 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Working together". Holyrood. 31 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-06. Cyrchwyd 10 Mai 2015.
  2. Swanson, Ian (9 Mai 2015). "SNP brings seismic shift to Edinburgh politics". Evening News. Johnston Press. Cyrchwyd 11 Mai 2015.
  3. "SNP delight as they take Loanhead seat". Midlothian Advertiser. Johnston Press. 16 Tachwedd 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-18. Cyrchwyd 11 Mai 2015.
  4. "Midlothian elects Owen Thompson as council leader". Evening News. Johnston Press. 19 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 10 Mai 2015.
  5. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  6. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban