Owen Griffith (Giraldus)
Owen Griffith | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Giraldus ![]() |
Ganwyd | 1 Chwefror 1832 ![]() Garndolbenmaen ![]() |
Bu farw | 14 Mai 1896 ![]() o diabetes ![]() Utica ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, golygydd, llenor, saer llongau ![]() |
Geinidog gyda'r Bedyddwyr Cymraeg yng Nghymru a'r Unol Daleithiau oedd Owen Griffith (Giraldus) (1 Chwefror[1][2] 1832 - 14 Mai 1896). Roedd yn awdur ac yn olygydd Y Wawr, papur Cymraeg y Bedyddwyr yn yr Unol Daleithiau.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Owen Griffith yn Tynybraich, Garndolbenmaen, Sir Gaernarfon, yn fab i Griffith Jones, gwas ffarm ac Elinor ei wraig (mae Owen a'i brodyr a chwiorydd yn defnyddio enw cyntaf eu tad fel cyfenw, yn y traddodiad enwau tadol Cymreig).[3]. Roedd yn frawd i'r bardd Evan Griffith (Ieuan Dwyfach). Cafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol Garndolbenmaen. Cafodd ei fedyddio yn aelod o enwad y Bedyddwyr pan oedd yn 13 mlwydd oed.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Tua 14 mlwydd oed aeth yn brentis saer llongau ym Mhorthmadog, gan weithio fel saer llong nes oedd tua 30 mlwydd oed, pryd yr aeth i Athrofa Hwlffordd i baratoi am weinidogaeth y Bedyddwyr.[4]
Wedi ymadael a'r athrofa dderbyniodd alwad i weinidogaethu ym Moriah, Rhisga, Sir Fynwy, cyn symud maes ei wasanaeth i Abergele.[5]
Ym 1866 ymfudodd i Unol Daleithiau America gan ddyfod yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr ym Minersville, Pennsylvania ym mis Chwefror 1867, fel olynydd Spinther. Arhosodd ym Minersville am ddwy flynedd pan aeth i Athrofa Ddiwinyddol Crozer yn Upland, Pennsylvania (bu Martin Luther King yn efrydydd yn yr un athrofa blynyddoedd wedyn). Wedi blwyddyn yn Crozer derbyniodd alwad i wasanaethu'r Bedyddwyr Cymraeg yn Utica, Talaith Efrog Newydd ym 1872, lle arhosodd hyd ddiwedd ei fywyd.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Cyn gadael Cymru roedd Giraldus wedi cyhoeddi ambell i ddarn barddonol yn Y Greal, cylchgrawn crefyddol misol, oedd yn gwasanaethu enwad y Bedyddwyr.[6]
Ym 1872 cyhoeddodd ei lyfr gyntaf Above and Around: Containing Religious Discourses and Germs. Together with Observations on Men and Things in Wales and America, llyfr o bregethau, brasluniau am bynciau crefyddol, ambell atgof am ei fywyd yng Nghymru yn ogystal â'i argraffiadau cyntaf o fywyd yn America.[7]

Ym 1876; cychwynnodd cyhoeddi a golygu Y Wawr, cylchgrawn misol y Bedyddwyr Cymreig yn America. Parhaodd yn olygydd y cylchgrawn hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd hefyd fersiwn Saesneg o'r Cylchgrawn am gyfnod byr The Daylight. Bu farw'r ddau gylchgrawn o fewn ychydig fisoedd o'i farwolaeth ef a fu Beyddwyr America heb gylchgrawn wedi hynny.[8]
Ym 1883, cyhoeddodd llyfr o'r enw "Oriel o Weinidogion Bedyddiedig Cymreig America"
Ym mis Awst 1885 dychwelodd i Gymru ar daith estynedig gan bregethu mewn llawer o leoedd yn y Gogledd a'r Deheudir. Ym 1887, cyhoeddodd lyfr am hanes ei daith "Naw Mis yng Nghymru" .
Ym 1891 cyhoedodd "Y Ddwy Ordinhad Gristionogol yn eu Gwraidd a'u Dadblygiad" [9] llyfr sydd bennaf yn cyfiawnhau barn y Bedyddwyr bod bedydd fel ymrwymiad i Gristionogaeth gan oedolyn yn well na bedydd plentyn.
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Hannah Jones, o Remsen, Efrog Newydd cawsant ddwy ferch.[10]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Ysbyty St. Elizabeth, Utica yn 64 mlwydd oed o broblemau cysylltiedig â diabetes.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae ei gofiant yn Y Drych yn ddweud ei fod wedi marw yn 63 mlwydd, 3 mis a 13 diwrnod oed sy'n rhoi'r dyddiad geni 1 Chwefror 1832 yn ôl wefan Date Calculator
- ↑ "Y DIWEDDAR GIRALDUS - Y Drych". Mather Jones. 1896-05-21. Cyrchwyd 2020-02-15.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol cyf HO107/1391 Cyfrifiad 1841 Tynybraich, Penmorfa Sir Gaernarfon (ardal cofrestru Ffestiniog Sir Feirionnydd)
- ↑ Y Wawr: Cylchgrawn misol y Bedyddwyr Cymreig yn America, Cyf. XXI rhif. 6 (Mehefin 1896), "MARWOLAETH Y PARCH. OWEN GRIFFITH, GOLYGYDD Y 'WAWR.'"
- ↑ Owen, Bob ; Croesor (1953). GRIFFITH, OWEN (‘Giraldus’; 1832 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 15 Chwefror 2020
- ↑ Cylchgronau Cymru – Y Greal (Llangollen) adalwyd 15 Chwefror 2020
- ↑ copi digidol o Above and Around ar Google Books adalwyd 15 Chwefror 2020
- ↑ Griffith, John Thomas (1845-1917), Brief biographical sketches of deceased Welsh Baptist ministers who have laboured in northeastern Pennsylvania from 1832 to 1904 (Edwardsville PA: J.T. Griffith, 1904)
- ↑ "Y DDWY ORDINHAD GRISTIONOGOL YN EU GWRAIDDAU DADBLYGIAD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1892-07-01. Cyrchwyd 2020-02-15.
- ↑ "Newddion Cymreig - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1896-06-11. Cyrchwyd 2020-02-15.