Owen Evans
Owen Evans | |
---|---|
Ganwyd |
Gwyn Owen Evans ![]() Tachwedd 1968 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
prif weithredwr, gwas sifil ![]() |
Swydd |
prif weithredwr ![]() |
Cyflogwr |
Gwas sifil a gweithredwr busnes yw Gwyn Owen Evans (ganwyd Tachwedd 1968). Cychwynnodd fel Prif Weithredwr S4C ar 1 Hydref 2017.
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i magwyd yn Aberystwyth ac aeth i Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n gweithio am 10 mlynedd gyda BT, a chododd i fod yn Bennaeth Cysylltiadau â'r Llywodraeth, Llywodraeth Ddatganoledig a Llywodraeth Leol yng Ngwasanaethau Byd-eang BT. Rhwng 2008 a 2010 roedd yn gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru. [1]
Ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2010 fel Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes. Yn 2012 daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau ac ar 1 Gorffennaf 2015, daeth yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.[2]
Mae’n gyn-aelod o Fwrdd yr Iaith, Prifysgol Cymru, Casnewydd a Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru. Mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol elusen Marie Curie yng Nghymru.
Ar 15 Mai 2017 cyhoeddwyd ei fod wedi ei benodi fel Prif Weithredwr newydd S4C yn olynu Ian Jones.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd S4C. S4C (15 Mai 2017). Adalwyd ar 16 Mai 2016.
- ↑ Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol - Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Llywodraeth Cymru (7 Ionawr 2016). Adalwyd ar 16 mai 2017.