Orania
Gwedd

| Delwedd:Orania Allerlei 1610.jpg, Orania Areal View.jpg | |
| Math | tref |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,523 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+2 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Affricaneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Lleol Thembelihle, Orania Representative Council |
| Gwlad | De Affrica |
| Arwynebedd | 8.95 km² |
| Uwch y môr | 1,180 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Koffiefontein |
| Cyfesurynnau | 29.82°S 24.4°E |
| Cod post | 8752 |
![]() | |
| Arian | Ora |
Mae Orania yn gymuned lled-ymreolaethol yn Penrhyn y Gogledd, De Affrica.[1] Mae wedi'i leoli ar Afon Oren.[2] Fe'i rhennir yn ddau hanner gan ffordd yr R369 ac mae wedi'i leoli 871 cilomedr o Tref y Penrhyn a 680 cilomedr o Pretoria. Mae pobl y dref bron i gyd yn Affricaners ac maen nhw'n siarad Affricaneg a Saesneg yn bennaf. Datblygwyd Orania yn y 1990au gyda'r nod o greu cymuned gwyn ar gyfer Affricaneriaid wrth i Apartheid ddod i ben. Roedd sylfaenwyr yn arddel y syniad o Volkstaat, sef gwladwriaeth Affricaner.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Main Place "Orania"" (yn Saesneg). Census 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 10 Ionawr 2014.
- ↑ Fihlani, Pumza (6 Hydref 2014). "Inside South Africa's whites-only town of Orania". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Hydref 2014. Cyrchwyd 6 Hydref 2014.
