Ogof y 'Rising Star'

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad yn Ne Affrica
LleoliadGer Krugersdorp yn ardal Johannesburg Fwyaf o ranbarth Gauteng, De Affrica
Dyfnder15m
Hyd250m
Uchder
(uwch y môr)
1450 m
DarganfyddwydRick Hunter a Steven Tucker
DaearegCarreg Galchfaen
Mynediadlled y siafft: 18 cm
NodweddionEsgyrn Homo naledi
Archwiliwyd2013-15
Gwefanhttp://www.profleeberger.com/ Gwefan Lee Berger

Darganfuwyd esgyrn pobl gynnar yn Ogof y Rising Star sy'n taflu golau ar esblygiad dyn o epa. Mae'r ogof wedi'i lleoli yn nyffryn afon Bloubank, tua 800 metr (0.5 milltir) i'r de o Swartkrans, ac o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd darganfyddiadau archaeolegol. Fe'i cofrestrwyd fel Safle Treftadaeth y Byd.[1] Yn 2013 darganfuwyd ffosiliau ac ymchwiliwyd ymhellach i'r system hwn o ogofâu; erbyn 2015 sylweddolwyd fod yr esgyrn yn cynrychioli rhywogaeth sydd bellach wedi darfod: yr hominin a briodolir dros dro i'r genws Homo, ac a alwyd yn Homo naledi.[1]

Daw'r gair 'Dinaledi', sef yr enw ar y prif siambr lle darganfuwyd yr esgyrn o'r iaith leol, frodorol, sef yr iaith Sotho (a elwir hefyd yn Sesotho); ei ystyr yw 'siambr o sêr'. Bathwyd yr enw yn ystod hirdaith 2013.[2] Gelwir rhan arall o'r ogof yn 'Siafft Superman' (Saesneg: Superman’s Crawl) gan mai'r unig ffordd i fynd drwyddo yw drwy mabwysiadu safle hedfan y cymeriad ffilm Superman: un fraich yn sownd wrth y corff a'r llall uwch y pen.

Hanes yr ogof[golygu | golygu cod]

Y system o ogofâu, gyda'r prif siambr ar y chwith.

Cred y daearegwyr nad yw'r ogof yn hŷn na thair miliwn o flynyddoedd.[3]

Archwiliwyd yr ogof gan arbenigwyr dringo drwy ogofâu yn y 1980au; arweiniwyd y teithiau hyn gan South African Speleological Association (SASA). Nid oeddent wedi ymchwilio'r rhan ble cafwyd hyd i'r esgyrn; dim ond y rhan cyntaf, sef 4,010 m o geg yr ogof.

Y darganfyddiad[golygu | golygu cod]

Ar 13 Medi 2013, tra'n archwilio'r system hon o ogofâu, daeth Rick Hunter a Steven Tucker ar draws rhan nad oedd wedi'i harchwilio oherwydd ei bod mor gyfyng. Roedd y siafft hon yn fertig, o fath 'simnai' ac yn mesur 12 metr o hyd, gyda lled cyfartalog o 20 cm yn unig.[4]

Roedd Tucker a Hunter wedi clywed am archaeolegydd enwog o Johannesburg, Lee Berger, a oedd "yn chwilio am esgyrn" ac aethant ato gyda lluniau o'r hyn roeddent wedi ei ddarganfod. Trefnodd Berger grŵp o archaeolegwyr i archwilio'r ogof a chywain yr esgyrn i'r wyneb ble roedd tîm arall mewn pebyll yn eu harchwilio a'u dosbarthu. Erbyn Medi 2015 roedd tua 1,550 o ffosiliau wedi'u codi i'r wyneb a rhyddhawyd dau bapur academaidd am y canfyddiadau cychwynnol.[5]

Ar 10 Medi 2015 datgelwyd yn gyhoeddus rhai o'r canfyddiadau a chyhoeddwyd yr enw Homo naledi.[1][4]

Homo naledi[golygu | golygu cod]

Mae gan y rhywogaeth gorff tebyg o ran mas i berson bychan ei daldra, gydag ymennydd llai, ac sy'n debycach i'r Australopithecus, a phenglog tebyg o ran siâp i rywogaeth cynnar o Homo. Mae anatomi'r sgerbwd yn gyfuniad o nodweddion australopitheciaid a'r homininiaid cynnar. Ceir tystiolaeth i'r cyrff gael eu taflu neu iddynt ddisgyn i fewn i'r ogof tua'r un amser ag y buont farw. Hyd yn hyn, nid yw'r esgyrn wedi eu dyddio.[6]

Disgrifiwyd Homo naledi yn ffurfiol ym Medi 2015 gan 47 o awduron a gynigiodd fod yr esgyrn yn perthyn i rywogaeth newydd sbon. Cred arbenigwyr eraill, fodd bynnag, fod angen rhagor o dystiolaeth cyn dod i benderfyniad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Berger, Lee R. (10 Medi 2015). "Homo naledi, a new species of the genus Homo from the Dinaledi Chamber, South Africa". eLife 4. doi:10.7554/eLife.09560. http://elifesciences.org/content/4/e09560.full. Adalwyd 10 Medi 2015. Lay summary.
  2. Yn Sesotho mae dinaledi yn enw lluosog sy'n amrywiad o'r gair naledi "seren" (Bukantswe v.3 Archifwyd 2015-09-23 yn y Peiriant Wayback. - geiriadur).
  3. Wilford, John Noble (10 Medi 2015). "New Species in Human Lineage Is Found in a South African Cave". New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 10 Medi 2015. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  4. 4.0 4.1 Dirks, Paul H. G. M. (2015). "Geological and taphonomic context for the new hominin species Homo naledi from the Dinaledi Chamber, South Africa". eLife 4: e09561. doi:10.7554/eLife.09561. ISSN 2050-084X. PMC 4559842. http://elifesciences.org/content/4/e09561. Adalwyd 12 Medi 2015.
  5. Shreeve, Jamie (10 Medi 2015). "This Face Changes the Human Story. But How?". National Geographic News. Cyrchwyd 10 Medi 2015. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  6. Berger et al. (2015): "If the fossils prove to be substantially older than 2 million years, H. naledi would be the earliest example of our genus that is more than a single isolated fragment. [...] A date younger than 1 million years ago would demonstrate the coexistence of multiple Homo morphs in Africa, including this small-brained form, into the later periods of human evolution."