Nicola Benedetti

Oddi ar Wicipedia
Nicola Benedetti
Ganwyd20 Gorffennaf 1987 Edit this on Wikidata
West Kilbride Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
  • Yehudi Menuhin School
  • Wellington School, Ayr Edit this on Wikidata
Galwedigaethfiolinydd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Gwobr 100 Merch y BBC, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, The Queen's Medal for Music, CBE, BBC Young Musician Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.nicolabenedetti.co.uk/ Edit this on Wikidata

Mae Nicola Joy Nadia Benedetti CBE (g. 20 Gorffennaf 1987) yn unawdydd ffidil o'r Alban. Enillodd wobr Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC pan oedd yn 16 oed. Mae hi'n gweithio gyda cherddorfeydd yn Ewrop ac America yn ogystal â Alexei Grynyuk, ei chyfeilydd rheolaidd. Ers 2012, mae hi wedi chwarae ffidil gan Gariel Stradivarius. Hi oedd y fenyw gyntaf i arwain Gŵyl Ryngwladol Caeredin pan gafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr yr Ŵyl ar 1 Hydref 2022.[1][2]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Benedetti yng Ngorllewin Kilbride, Gogledd Swydd Ayr, yr Alban, i dad o'r Eidal a mam o dras Eidalaidd ac Albanaidd.[3] Dechreuodd chwarae'r ffidil yn bedair oed gyda gwersi gan Brenda Smith. Yn wyth oed, daeth yn arweinydd Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr.[4] Yn naw oed, roedd eisoes wedi llwyddo yn ei harholiad gradd wyth, tra'n mynychu Ysgol Wellington. Ym mis Medi 1997, dechreuodd astudio yn Ysgol Yehudi Menuhin yng nghefn gwlad Surrey, Lloegr.

Ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf (1998), chwaraeodd unawd yng nghyngerdd blynyddol yr ysgol yn Neuadd Wigmore, a pherfformiodd yn Llundain a Pharis fel unawdydd yn Concerto Ffidil Dwbl Bach gydag Alina Ibragimova. Chwaraeodd mewn cyngerdd coffa yn Abaty Westminster i ddathlu bywyd a gwaith Yehudi Menuhin.

Yn 2000, bu'n cystadlu yng Nghystadleuaeth Menuhin fel cystadleuydd iau.

Mae gan Nicola chwaer hŷn, Stephanie, sydd hefyd yn chwarae'r ffidil.

Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC[golygu | golygu cod]

Nicola Benedetti yn 2023

Yn mis Mai 2004, pan oedd yn 16 oed, enillodd Benedetti gystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, gan berfformio Concerto Ffidil Cyntaf Karol Szymanowski yn y rownd derfynol yn Neuadd Usher yng Nghaeredin, gyda Cherddorfa Symffoni Albanaidd y BBC.[5][6] O ganlyniad i ennill y wobr, daeth yn gyntaf yn adran gerddoriaeth gwobr Top Scot ym mis Rhagfyr 2005.[7]

Benedetti Foundation[golygu | golygu cod]

Yn 2019, ffurfiodd Benedetti'r Benedetti Foundation. Ers 2019, mae'r elusen wedi gweithio gyda mwy na 75,000 o bobl o bob oed a 105 gwlad gwahanol yn cymryd rhan. Yn 2024, roedd eu fideos ar Youtube wedi cael eu chwarae mwy na 6.5 miliwn o weithiau.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd Benedetti mewn perthynas â'r sielydd Almaenig Leonard Elschenbroich, y cyfarfu ag ef yn Ysgol Gerdd Yehudi Menuhin. Er bod y berthynas wedi dod i ben, maent yn parhau i fod yn ffrindiau da.[8]

Anrhydeddau a gwobrau[golygu | golygu cod]

Benedetti yn mis Awst 2022
  • Yn 2017, cyflwynwyd iddi Fedal Gerddoriaeth y Frenhines. Benedetti oedd y ieuengaf o'r deuddeg person i dderbyn y wobr ers ei sefydlu yn 2005. [10]
  • Yn 2017, cafodd ei hethol yn gymrawd anrhydeddus o Gymdeithas Frenhinol Caeredin.[11]
  • Yn 2022, fe’i penodwyd yn llywydd anrhydeddus y Royal Conservatoire of Scotland (RCS). [13]
  • Derbyniodd wobr Caeredin 2023, sy’n cael ei rhoi i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r ddinas a’i dwyn i sylw cenedlaethol a rhyngwladol. Rhoddwyd y wobr i gydnabod ei gwaith fel cyfarwyddwr Gŵyl Caeredin. [14]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Nicola Benedetti to become our next festival director".
  2. Carrell, Severin; Khomami, Nadia (1 Mawrth 2022). "Nicola Benedetti becomes first woman and first Scot to lead Edinburgh international festival" (yn Saesneg). Guardian Media Group. The Guardian.
  3. "Nicola Benedetti". Scotland is the Place. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-29.
  4. Nicola Benedetti, interviewed during BBC Radio 3 broadcast of 2012 BBC Proms (5 August 2012)
  5. Macleod, Angus (6 Mai 2004). "McConnell bows to pressure over young musician". The Times. Times Newspapers Limited.
  6. "Violinist, 16, wins musical title". BBC News (yn Saesneg). 2 Mai 2004. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2014.
  7. "Rankin the toast of Scotland as fans sing his praises". Living Scotsman.
  8. "Benedetti: I've never stopped loving my former boyfriend". HeraldScotland (yn Saesneg). Glasgow. 5 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 20 Chwefror 2024.
  9. "Violinist Nicola Benedetti receives Order of the British Empire". Classic FM. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-20.
  10. Davis, Lizzie (23 Mai 2017). "Nicola Benedetti awarded Queen's Medal for Music". Classic FM.
  11. "RSE Welcomes 60 New Fellows" (yn en) (Press release). https://www.rse.org.uk/rse-welcomes-60-new-fellows/. Adalwyd 28 Mawrth 2017.
  12. "Royal Medals". Royal Society of Edinburgh (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Mawrth 2021.
  13. Kennedy, Kara (30 Mehefin 2022). "Yet another string added to Benedetti's bow with RCS president role". The Herald (yn Saesneg). Glasgow. t. 3.
  14. "Benedetti selected to receive 2023 city award". The Herald (yn Saesneg). Glasgow. 17 Hydref 2023. t. 3.