New Lanark

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
New Lanark
NewlanarkNL06.jpg
Math pentref Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir De Swydd Lanark, Lanark Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau 55.66°N 3.78°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
New Lanark

Pentref model yn ne-orllewin yr Alban yw New Lanark. Saif yn awdurdod unedol De Swydd Lanark, ar lan Afon Clud, tua 1.4 milltir (2.2 km) o Lanark.

Sefydlwyd y pentref ym 1786 gan David Dale, ac adeiladodd felinau cotwm a thai ar gyfer y gweithwyr. Roedd o'n fanciwr o Glasgow. Ffurfiodd o bartneriaeth gyda Richard Arkwright, dyfeisydd y Ffrâm nyddu, ac roedd o'n ddylanwad mawr ar Chwyldro diwydiannol Lloegr. Crewyd melin gotwm, yn defnyddio pŵer Afon Clud, yn union fel gwnaeth Arkwright yn Cromford. Daeth eu partneriaeth i ben ar ôl blwyddyn, arhosodd Dale am 15 mlynedd arall, yn creu traddodiad ddyngarol yno.[1]

Priododd Caroline, merch David Dale, Robert Owen ym 1799, a ffurfiodd bartneriaeth i brynu’r melinau. O dan ddylanwad Robert Owen daeth New Lanark yn adnabyddus fel esiampl o weithredu er budd y gweithwyr. Creodd ddiwygiadau cymdeithasol, addysgol a gweithiol, a disgrifiodd y datblygiadau fel “the most important experiment for the happiness of the human race that has yet been instituted in any part of the world”.[2]

Caeodd y melinau cotwm ym 1968. Adferwyd y rhan fwyaf o'r pentref fel atyniad i ymwelwyr, ac fe'i dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.[3]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan New Lanark
  2. Gwefan New Lanark
  3. "New Lanark". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]