Neidio i'r cynnwys

Nestor Makhno

Oddi ar Wicipedia
Nestor Makhno
Nestor Makhno mewn gwersyll i bobl wedi'u dadleoli yn Rwmania ym 1921, yn sgil methiant ei wrthryfel
Ffugenwбатька Махно Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Tachwedd 1888 Edit this on Wikidata
Huliaipole Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1934 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Pobl Wcráin, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwyldroadwr, llenor, arlunydd, person milwrol, anarchydd, ffermwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddataman, llywydd corfforaeth Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMemories, The ABC of Revolutionary Anarchism Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadPeter Arshinov Edit this on Wikidata
PriodHalyna Kuzmenko Edit this on Wikidata
PlantOlena Makhno Edit this on Wikidata

Chwyldroadwr anarchaidd o Wcráin oedd Nestor Ivanovych Makhno (Hydref 188825 Gorffennaf 1934) a fu'n gadlywydd ar fyddin o werinwyr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Wcráin (1917–21).

Bywyd cynnar (1888–1917)

[golygu | golygu cod]

Ganed Nestor Ivanovych Makhno yn Huliai-Pole, Talaith Katerynoslav, Ymerodraeth Rwsia, a leolir bellach yn oblast Zaporizhia yn ne Wcráin. Mynychodd yr ysgol gynradd leol.[1]

Yn 1906 ymunodd Makhno â'r mudiad anarchaidd lleol, Undeb yr Agrariaid Tlodion. Cafodd ei arestio ar gyhuddiadau o fradlofruddiaeth a difeddianiad, a'i ddedfrydu i farwolaeth gan lys milwrol Odessa ym Mawrth 1910. Oherwydd ei ieuenctid, newidiwyd ei ddedfryd i garchar am oes. Treuliodd y cyfnod 1911–17 dan glo yng Ngharchar Butyrka ym Moscfa, ac yno dylanwadwyd arno yn gryf gan y deallusyn anarchaidd Petr Arshinov.[1]

Chwyldroadau Wcráin (1917–21)

[golygu | golygu cod]

Yn sgil Chwyldro Chwefror 1917 yn Rwsia, rhyddhawyd Makhno o'r carchar a dychwelodd i Katerynoslav. Yno fe drefnodd Undeb y Gwerinwyr ac undebau llafur y gweithwyr metel a'r seiri coed. Arweiniodd herwyr anarchaidd wrth ddwyn cyrchoedd ar ystadau preifat, eu meddiannu, ac ailddosbarthu'r tir, ac yn 1918 bu ar flaen y gad mewn gwrthryfeloedd y werin yn erbyn Pavlo Skoropadsky, pennaeth yr Hetmanat a sefydlwyd gan luoedd Ymerodraeth yr Almaen ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhagorodd ar ryfela herwfilwrol, a marchogluoedd ysgeifn gyda chymorth ceir gynnau peiriant (tachanky) oedd ei luoedd mwyaf effeithlon. Enillodd Makhno y llysenw bat'ko ("tad") oddi ar ei ddilynwyr, a gelwid ei luoedd yn Makhnovshchyna neu'r Fyddin Ddu.[1]

Anelodd Makhno at ymgynghreirio â'r lluoedd ar naill ochr yn y rhyfel annibyniaeth – Gweriniaeth Pobl Wcráin (dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth) a Gweriniaeth Sofietaidd Rwsia (dan lywodraeth y Bolsieficiaid) – am resymau tactegol, er mwyn cael arfau a chyflenwadau oddi arnynt ac i reoli'r cydbwysedd grym yn ne Wcráin. Yng ngwanwyn 1918 derbyniodd arfau oddi ar y Bolsieficiaid, ac yn yr haf cyfarfu Makhno â'u harweinydd Vladimir Lenin. Yn sgil cwymp yr Hetmanat yn Rhagfyr 1918, cytunodd Makhno i ymgynghreirio â'r Gyfarwyddiaeth, ond torrodd ei air wedi iddo sicrhau cyflenwadau milwrol. Cynorthwyodd luoedd y Bolsieficiaid wrth gipio Katerynoslav, ond methodd Makhno amddiffyn y ddinas rhag gwrthymosodiad y Gyfarwyddiaeth, a bu'n rhaid iddo ffoi ar 31 Rhagfyr. Yn Ionawr 1919, ymgorfforwyd ei luoedd yn rhan o'r Fyddin Goch, dan enw 3edd Frigâd Traws-Dnepr, a brwydrasant yn erbyn y Gyfarwyddiaeth a'r Fyddin Wen. Erbyn diwedd Ionawr, bu Makhno yn gadlywydd ar ryw 20,000 o filwyr, ac yn ddiweddarach ymunodd Nabat, conffederasiwn o grwpiau anarchaidd, â gwrthryfel Makhno.[1]

Ym Mai 1919 llwyddodd y Fyddin Wen dorri ffrynt y Fyddin Goch a'r Fyddin Ddu, a rhoddai'r bai ar Makhno gan Leon Trotsky, comisâr rhyfel y Bolsieficiaid, a chyhoeddwyd ymgyrch filwrol yn ei erbyn. Cynyddodd Makhno ei luoedd drwy lofruddio'i brif gystadleuydd, Nykyfor Hryhoriiv, a derbyn gwrthryfelwyr Hryhoriiv yn ogystal â gwrthgilwyr o'r Fyddin Goch. Ym Medi 1919 bu cynghrair dros dro arall rhwng Makhno a'r Gyfarwyddiaeth, a fe lwyddodd dderbyn ffrwydron rhyfel ac i ddanfon ei glwyfedigion i'r gorllewin. Yn y cyfnod hwn bu'r Fyddin Ddu ar ei hanterth, a chanddi ryw 80,000 o ryfelwyr ac yn meddu ar ran fawr o dde Wcráin.[1]

Yn sgil trechu'r Fyddin Wen yn Wcráin yn niwedd 1919, trodd Trotsky ei sylw unwaith eto at orchfygu gwrthryfel Makhno. Trwy gydol gwanwyn ac haf 1920, brwydrodd y Fyddin Ddu yn erbyn y Bolsieficiaid, drwy ostegu sofietau lleol a dienyddio comiwnyddion. Wrth i'r Fyddin Wen unwaith eto ennill tir yn ne Wcráin, a hynny dan y Cadfridog Petr Wrangel, bu'n rhaid i Makhno ymgynghreirio â'r Bolsieficiaid yn Hydref 1920. Wedi iddynt drechu lluoedd Wrangel, amgylchynodd y Fyddin Goch Huliai-Pole ar 26 Tachwedd. Ffoes Makhno o'i ddinas enedigol, a bu'n dwyn cyrchoedd ar y Fyddin Goch ar hyd arfordir Azov, Afon Don, ac yn rhanbarth y Volga. Parhaodd yr ymosodiadau nes iddo flino'i wrthryfelwyr yn llwyr, a chafodd Makhno ei hun ei anafu'n ddifrifol. Ar 28 Awst 1921, dim ond 83 o ddynion oedd yn weddill wrth i Makhno groesi'r ffin i Rwmania.[1]

Alltudiaeth (1921–34)

[golygu | golygu cod]

Ymsefydlodd Makhno ym Mwcarést, ac yn ddiweddarach yn Warsaw. Fe'i arestiwyd yn Hydref 1922 gan yr awdurdodau yng Ngwlad Pwyl ar gyhuddiad o gynllwynio gyda diplomyddion Sofietaidd i ysgogi gwrthryfel yn erbyn y Pwyliaid yng ngorllewin Wcráin, mewn ymgais i aduno'r rhanbarth honno â Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin. Yn ei achos llys, gwrthododd y cyhuddiad, gan ddadlau iddo achub annibyniaeth Gwlad Pwyl yn 1920 drwy wrthod ymuno â'r ymgyrch Sofietaidd a thrwy rhwystro marchfilwyr Semen Budenny. Cafwyd yn ddieuog ar 27 Tachwedd 1922, a bu'r heddlu yn cadw golwg arno am flwyddyn gyfan.[1]

Yn Ebrill 1925, symudodd Makhno i ardal Vincennes ym Mharis, Ffrainc. Yno fe dderbyniodd incwm gan anarchwyr Ewropeaidd ac Americanaidd, a chyhoeddodd erthyglau yn y cylchgronau Anarkhicheskii a Delo truda. Cyhoeddwyd ei hunangofiant anorffenedig mewn tair chyfrol, yn yr iaith Rwseg. Bu farw ar 25 Gorffennaf 1934 ym Mharis yn 45 oed. Cleddir ei lwch ym Mur y Comiwnwyr ym Mynwent Père Lachaise.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 351–53.