Nathaniel Cynhafal Jones

Oddi ar Wicipedia
Nathaniel Cynhafal Jones
FfugenwCynhafal Jones Edit this on Wikidata
Ganwyd19 Ebrill 1832 Edit this on Wikidata
Llangynhafal Edit this on Wikidata
Bu farw14 Rhagfyr 1905 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bardd a golygydd Cymreig o Sir Ddinbych oedd Nathaniel Cynhafal Jones (19 Ebrill 183214 Rhagfyr 1905).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Nathaniel ym mhlwyf Llangynhafal, Sir Ddinbych, yn 1832. Aeth i weithio fel teiliwr yn Yr Wyddgrug lle daeth yn gyfaill i'r nofelydd Daniel Owen, a weithiai yn yr un gweithdy am gyfnod.[1]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi, ar bynciau crefyddol yn bennaf, sy'n adlewyrchu ei safbwynt fel un o'r Methodistiaid Calfinaidd. Roedd yn adnabyddus hefyd fel pregethwr Methodus, o 1859 ymlaen.[1]

Ond ei brif gyfaniad i lenyddiaeth Gymraeg yw ei olygiad safonol o weithiau William Williams, Pantycelyn, (mewn dwy gyfrol ; cyhoeddwyd 1887, 1897).[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Fy Awenydd (1859)
  • Elias y Thesbiad (1869)
  • Y Messiah (1895)
  • Y Bibl (1895)
  • Charles o'r Bala (1898)

Gwaith golygyddol[golygu | golygu cod]

  • Gweithiau William Williams, Pantycelyn, 2 gyfrol (1887, 1897)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]