Mur Mawr Gorgan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwaith amddiffynol hynafol a leolir yn ardal Gorgan yng ngogledd-ddwyrain Iran, yn y rhanbarth a adnabyddid yn yr Henfyd fel Hyrcania, yw Mur Mawr Gorgan. Cyfeirir ato hefyd fel Mur Amddiffynol Gorgan, Rhwystr Anushirvân, Rhwystr Firuz a Qazal Al'an, a hefyd Sadd-i-Iskandar, (Perseg: 'Argae/Rhwystr Alecsander). Mae rhai archaeolegwyr yn ei alw 'Y Sarff Goch' am fod ei friciau o liw coch. Mae'n amddiffyn Pyrth Caspia a oedd yn eu tro yn fynedfa i wastadiroedd gogledd a chanolbarth Iran i nomadiaid Canolbarth Asia. Teithiodd Alecsander Fawr a'i fyddin trwy'r Pyrth ar ei daith i Hyrcania a'r dwyrain.

Dyma'r mur amddiffynol ail hiraf erioed, ar ôl Mur Mawr Tsieina, ond fe'i codwyd tua mil o flynyddoedd cyn y mur hwnnw ac mae ei adeiladwaith yn fwy cadarn na Mur Mawr Tsieina fel y saif heddiw. Mae'n fwy na Mur Hadrian a Mur Antoninus gyda'i gilydd. Mae'n rhedeg am 155 km gyda thrwch o rwng 6 - 10 medr. Ceir sawl caer ar hyd y mur, wedi eu lleoli rhwng 10 a 50 km oddi wrth ei gilydd.

Does dim cytundeb ymhlith archaeolegwyr am oed y mur, ond credir iddo gael ei godi rhwng y 3edd a'r 7fed ganrif OC, er bod rhai yn dadlau iddo gael ei godi am y tro cyntaf yn y ganrif gyntaf OC.

Dolenni allanol[golygu]