Mosg Hanbali

Oddi ar Wicipedia
Mosg Hanbali
Enghraifft o'r canlynolmosg Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Map
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
RhanbarthLlywodraethiaeth Nablus, Nablus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Mosg Hanbali (a elwir hefyd yn Fosg Hanabila (Arabeg: المسجد الحنبلي‎) yn fosg mawr yng nghanol Nablus ym Mhalesteina, ychydig oddi ar Stryd Jama'a Kabir i'r de o Sgwâr y Merthyr ac i'r gorllewin o Fosg Mawr Nablus.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Mosg Hanbali gan deulu al-Hanbali o Nablus ar ddechrau'r 16g, rhwng 1526-27, a'i enwi ar eu hôl. Defnyddiwyd colfnau cerrig hynafol gyda phriflythrennau cerfiedig wrth adeiladu'r mosg, a oedd fwy na thebyg yn dyddio o'r cyfnod Bysantaidd neu'r Rhufeiniaid.[2] Yn ôl traddodiad Mwslimaidd lleol, mae'r blwch pren a osodwyd o fewn y mosg yn cynnwys tri blewyn o wallt Muhammad, proffwyd Islam. Cludir y blwch yn flynyddol ar y 27fed diwrnod o Ramadan i addolwyr ei weld a cheisio bendithion ganddo.[3]

Ailadeiladwyd meindwr Mosg Hanbali ym 1913. Yn y 1930au cynhaliodd imam y mosg, Sheikh Muhammad Radi al-Hanbali gysylltiadau ag arweinydd y gwrthryfelwyr Izz al-Din al-Qassam. Gweinyddir materion sy'n ymwnud a'r mosg gan deulu Hanbali hyd heddiw.[4] Yn ystod rheolaeth Gwlad Iorddonen yn y Lan Orllewinol yn dilyn Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, roedd yn un o'r ychydig fosgiau a gynhaliodd ei bwyllgor zakat ei hun a fyddai'n rheoli casglu a dosbarthu cronfeydd zakat trwy'r gymuned leol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Iriving, 2004, p. 212.
  2. Nofal, Aziza (29 June 2016). "Nablus' ancient mosques tell story of religions throughout history". Al Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 August 2016. Cyrchwyd 14 August 2016.
  3. Irving, 2004, p. 220.
  4. Kedourie, p. 89.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]