Llywodraethiaeth Nablus
| Enghraifft o: | llywodraethiaethau Palesteina |
|---|---|
| Poblogaeth | 320,830, 388,321 |
| Gwlad | |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
| Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/026bh90 |

Mae Llywodraethiaeth Nablus neu Llywodraethiaeth Nablws (Arabeg: محافظة نابلس Muḥāfaẓat Nāblus) yn ardal weinyddol ym Awdurdod Palesteina sydd wedi'i lleoli yn Ucheldir Canolog y Lan Orllewinol, 53 km i'r gogledd o Jerwsalem. Mae'n cwmpasu'r ardal o amgylch dinas Nablus sy'n gwasanaethu fel muhfaza (sedd) y llywodraethiaeth. Mae'n un o'r 16 Llywodraethiaethau Palesteina.
Yn ystod chwe mis cyntaf yr Intifada Cyntaf lladdwyd 85 o bobl yn Llywodraethiaeth Nablws gan fyddin Israel. Hwn oedd y cyfanswm uchaf o holl Lywodraethau'r Lan Orllewinol.[1]
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina, roedd gan y llywodraethiaeth 388,321 o drigolion yng nghanol 2017. Erbyn 2020 cododd y nifer hon i 407,754 o drigolion.[2]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Mae'r boblogaeth ar gyfartaledd yn ifanc iawn ac mae tua 34.9 y cant yn iau na 15 oed, a dim ond 4 y cant sydd dros 65 oed. Yn 2017, roedd 99.8 y cant o'r boblogaeth yn Fwslim a 0.2 y cant yn Gristnogion neu fel arall. Ni chynhwyswyd preswylwyr aneddiadau Iddewig. Roedd 56.9 y cant o gyfanswm y boblogaeth yn ffoaduriaid yn yr un flwyddyn.[2]
| Cyfrifiad | Trigolion[2] |
|---|---|
| 1997 | 261.340 |
| 2007 | 320.830 |
| 2017 | 388.321 |
Bwrdeistrefi
[golygu | golygu cod]
Dinas
[golygu | golygu cod]Trefi
[golygu | golygu cod]Mae gan y trefi yma boblogaeth o dros 4,000 o drigolion a chynghorau trefol o rhwng 11 ac 15 aelod.
|
|
|
Cynghorau Pentrefi
[golygu | golygu cod]Mae gan y Llywodraethiaeth 22 y treflannau yma boblogaeth o dros 1,000 o drigolion a chynghorau pentref o rhwng 3 a 9 aelod.
Gwersylloedd Ffoaduriaid
[golygu | golygu cod]Oriel
[golygu | golygu cod]-
Golygfa gyffredinol o ddinas Nablus o Ysbyty Prifysgol Genedlaethol An-Najah, yn dangos cymdogaeth Stryd Asira a chymdogaeth Rafidia
-
Nablus - panorama
-
Tref Beita
-
Arwyd ffordd tairieithog i dref Qabalan yn dangos natur wleidyddol yr ardal
-
Gwersyll/Treflan Ffoaduriaid Askar
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Adrannau llywodraethol tiroedd Palesteinaidd
- gwefan Llywodraethiaeth Nablus Archifwyd 2011-01-19 yn y Peiriant Wayback
- [1] Archifwyd 2021-04-20 yn y Peiriant Wayback
