Morgan Mwynfawr

Oddi ar Wicipedia

Brenin Teyrnas Morgannwg yn ne-ddwyrain Cymru yn hanner cyntaf yr 8g oedd Morgan Mwynfawr neu Morgan ab Athrwys (fl. tua 730 OC).

Roedd yn fab i Athrwys ap Meurig ac yn ŵyr i Meurig ap Tewdrig. Dilynodd Meurig ar yr orsedd, gan fod ei dad, Athrwys, eisoes wedi marw. Morgan a roddodd ei enw i deyrnas Morgannwg, er fod ei deyrnas yn ehangach na Morgannwg ei hun, yn ymestyn i gyffiniau Afon Tywi yn y gorllewin ac yn cynnwys Teyrnas Gwent a Glywysing a rhan o Erging ar ochr ddwyreiniol Afon Gwy hefyd, efallai.

Olynwyd Morgan Mwynfawr gan ei fab, Ithel ap Morgan.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]