Molly Parkin
| Molly Parkin | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Chwefror 1932 Pontycymer |
| Bu farw | 5 Ionawr 2026 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | arlunydd, newyddiadurwr, golygydd ffasiwn, nofelydd, hunangofiannydd |
| Priod | Michael Parkin, Patrick Hughes |
| Plant | Sophie Parkin, Sarah Parkin |
Arlunydd, nofelydd a newyddiadurwr o Gymru oedd Molly Parkin (ganed Molly Noyle Thomas, 3 Chwefror 1932 – 5 Ionawr 2026), a ddaeth yn enwog ym myd ffasiwn y 1960au.[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Parkin yn 1932, yr ail o ddwy ferch, ym Mhontycymer, Cwm Garw, Sir Forgannwg. Symudodd hi a'i theulu i Lundain, i fyw gyda'i thad-cu a mam-gu, pan ddechreuodd yr ail Ryfel Byd yn 1939.[2] Ar ôl pasio ei arholiad 'eleven plus' aeth Parkin i Ysgol Ramadeg Sirol Willesden (sydd bellach yn Capital City Academy). Yn ystod y rhyfel, yn ddiarwybod i'w rhieni, yn 12 mlwydd oed bu'n gweithio ar rownd bapur yn Dollis Hill, Llundain, gyda'r nos. Dywedodd wrth ei mam ei bod yn astudio celf ar ôl oriau arferol yn yr ysgol. Gwelodd ei thad-cu hi'n dosbarthu papurau, fodd bynnag, a dywedodd hyn wrth ei mam - o ganlyniad fe'i rhwystrwyd rhag parhau â'r gwaith a'i cosbwyd gan orfodi iddi wneud gwaith tŷ. Wedi hyn enillodd ychydig o arian gan Mr Hill, eu lletywr, a gymerodd drueni arni a thalodd iddi lanhau ei ystafell. Roedd hi'n dotio ar Hill, am ei bod yn meddwl ei fod yn ŵr bonheddig, a blynyddoedd yn ddiweddarach gwelodd nodweddion tebyg yn yr actor James Robertson Justice.
Yn ddiweddarach prynodd y teulu siop dybaco a siop bapur newydd, oedd yn cyflogi pedwar bachgen papur. Pan ddaliwyd un o'r bechgyn papur yn dwyn arian roedd rhaid llenwi ei shifft ar hast ac roedd rhaid i Parkin, yn 14 oed ar y pryd, wneud y rownd bapur yn ei le. Ar ei diwrnod cyntaf yn gwneud y gwaith fe darodd car hi oddi ar ei beic a tharodd ei phen ar y palmant. Cafodd ei tharo'n anymwybodol, ac aeth i'r ysbyty, ac roedd i ffwrdd o'r ysgol am tua blwyddyn, yn gwella. Treuliodd Parkin lawer o'r cyfnod hwn ar ei phen ei hun yn ei hystafell uwchben y siop, yn arlunio a phaentio. Datblygodd hyn ei diddordeb yn y celfyddydau.[3]
Yn ei hunangofiant Welcome to Mollywood a gyhoeddwyd yn 2010, datgelodd bod ei thad wedi ei cham-drin yn rhywiol a chorfforol ers yn blentyn.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1949 enillodd Parkin ysgoloriaeth i astudio celf gain yn Goldsmiths College, Llundain, ac yna ysgoloriaeth i Goleg Celf Brighton. Tra yn y brifysgol cafodd garwriaeth gyda'r actor James Robertson Justice pan oedd ef yn briod, a 30 mlynedd yn hŷn na hithau.
Ar ôl priodi daeth yn athrawes, gan baentio drwy gydol y cyfnod hwn. Cyfarfu y gwerthwr celf Michael Parkin yn 1957 ac fe ofynnodd iddi ei briodi o fewn wythnosau. Roedd ei pheintiadau yn gwerthu'n dda yn West End Llundain a thalodd hwn am dŷ iddynt yn Old Church Street, Chelsea. Wedi priodi cafodd Molly ddwy ferch Sophie a Sarah. Ar ddechrau y 1960au darganfu Molly bod ei gŵr wedi bod yn anffyddlon, a thaflodd ef allan o'r tŷ. Yn yr adeg yma collodd yr awydd, ysbrydoliaeth a brwdfrydedd i barhau gyda'i gwaith celf.
I gefnogi ei dwy ferch trodd Parkin at fyd ffasiwn. Ar ôl gwneud hetiau a bagiau ar gyfer Barbara Hulanicki yn Biba, a gweithio ochr yn ochr â Mary Quant, agorodd Parkin siop bwtîg yn Chelsea, a ymddangosodd mewn erthygl Newsweek am 'Swinging London'. Ar ôl gwerthu'r siop i'w phartner busnes Terence Donovan, sefydlodd y cylchgrawn arloesol Nova yn 1964. Yna, daeth yn olygydd ffasiwn Harpers & Queen yn 1967, a'r un swydd gyda'r Sunday Times ym 1969, cyn ei gwobrwyo yn Olygydd Ffasiwn y Flwyddyn yn 1971. Ar ôl dod yn bersonoliaeth teledu yn y 1970au, gwaharddwyd Parkin o raglenni'r BBC am regi.[5]
Yn y 1970au cynnar ysgrifennodd Parkin amlinelliad 750 gair ar gyfer nofel o'r enw Love All. Er nad oedd y cyhoeddwyr Blond & Briggs yn hoff ohono, dywedodd ysgrifenyddes y swyddfa ei bod yn hoffi'r syniad, a phenderfynodd y cwmni gyhoeddi'r nofel. Roedd ei hail nofel yn cynnwys mwy o ryw: cyhoeddwyd Up Tight yn 1975, a chafodd fwy o gyhoeddusrwydd, diolch i'r clawr gan y ffotograffydd ffasiwn Harry Peccinotti yn dangos model Ffrengig yn gwisgo nicers tryloyw, gan beri i lyfrwerthwyr Hatchards ei gadw o dan y cownter. Ar ôl dychwelyd o fyw yn Ninas Efrog Newydd yn 1980, wedi gwahanu o'i gŵr Patrick Hughes, unwaith eto roedd angen arian arni i dalu am addysg ei merched.[6] Erbyn iddi gyhoeddi ei nofel Breast Stroke ym 1983, roedd wedi dod yn alcoholig. Gyda llwyddiant y tri llyfr, yn ogystal â nifer o erthyglau ar gyfer cylchgronau dynion, fe'i rhestrwyd yn rhif 24 mewn adolygiad cylchgrawn Timeout o awduron erotig gorau Llundain.[7]
Ar ôl cyhoeddi ei hunangofiant "Moll" yn 1993, dechreuodd Parkin beintio unwaith eto, a chynhaliwyd ei harddangosfa gyntaf ers mwy na degawd yn y Washington Gallery ym Mhenarth. Mae llawer o'i gwaith wedi cael ei ysbrydoli gan dirweddau Celtaidd yn enwedig Pontycymer, er bod ei theithiau yn India wedi ei hysgogi i gynhyrchu gweithiau gyda lliwiau cryfach. Yn Hydref 2010, cyhoeddwyd ei hatgofion Welcome to Mollywood .[8][9]
Ym Mai 2011 roedd hi'n westai ar y rhaglen Desert Island Discs ar BBC Radio 4.[2]
Ym Mai 2012 dyfarnwyd Pensiwn y Rhestr Sifil iddi gan y Frenhines am ei gwasanaethau i'r celfyddydau.[10]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cafodd Molly ddwy ferch, Sophie a Sarah gyda'i gŵr cyntaf, Michael
Priododd yr artist Patrick Hughes yn 1967 ac roedd ganddo dri mab o briodas flaenorol. Yn 1975 symudodd y teulu i St Ives yng Nghernyw. Cafodd Hughes waith yn Efrog Newydd yn 1979 a symudodd y ddau i westy'r Chelsea yn Manhattan, oedd yn gartref ar gyfer artistiaid. Daeth eu priodas i ben mewn ysgariad yn 1981.
Yn Chwefror 2016 ymddangosodd mewn pennod o Britain's Weirdest Council Houses ar Channel 4 a chafodd ei ffilmio yn ei fflat cyngor mewn tŵr bloc yn ardal World's End yn Chelsea. Symudodd Parkin i'r fflat yn 2002 ar ôl iddi fynd yn fethdalwr ar ôl cyfnod o alcoholiaeth.[11]
Bu farw yn 93 mlwydd oed yn Ionawr 2026.[12][13]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Glover, Michael (9 Gorffennaf 2010). "BP Portrait Award 2010, National Portrait Gallery, London". The Independent. UK. Cyrchwyd 30 Mai 2011.
- ↑ 2.0 2.1 "Desert Island Discs with Molly Parkin".
- ↑ "The Paper Round with Molly Parkin".
- ↑ Horwell, Veronica (2026-01-05). "Molly Parkin obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2026-01-05.
- ↑ "Oh mum, PLEASE stop talking about your sex life!". Daily Mail. UK. 3 Mai 2007. Cyrchwyd 2008-04-22.
- ↑ "How we met: John Maybury & Molly Parkin". The Independent. UK. 29 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-23. Cyrchwyd 2008-04-22.
- ↑ "Sex and books: London's most erotic writers". TimeOut. 26 Chwefror 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-14. Cyrchwyd 2008-04-22.
- ↑ Cacciottolo, Mario (30 Hydref 2010). "Molly Parkin: Fashioning her own career". BBC News. Cyrchwyd 3 Ionawr 2012.
- ↑ 'Molly Parkin's racy confessions...", 10 Hydref 2010
- ↑ "Molly Parkin shocked to receive rare honour". Daily Telegraph. 20 Mai 2012. Cyrchwyd 2013-03-10.
- ↑ 'Clive Martin meets the octogenarian artist whose wild social life has been as striking as her painting' - The Guardian 14 Mehefin 2014
- ↑ "Obituary: Molly Parkin, artist, writer and fashion editor". BBC News (yn Saesneg). 5 Ionawr 2026. Cyrchwyd 6 Ionawr 2026.
- ↑ "Molly Parkin, y cymeriad mwyaf lliwgar o'n i wedi gweld erioed - Huw Fash". BBC Cymru Fyw. 2026-01-06. Cyrchwyd 2026-01-09.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan bersonol Molly Parkin Archifwyd 2020-11-30 yn y Peiriant Wayback
- Molly Parkin ar yr Internet Movie Database