Moisés Ville
Math | bwrdeistref |
---|---|
Poblogaeth | 2,425 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | history of the Jews in Argentina |
Sir | San Cristóbal Department |
Gwlad | Yr Ariannin |
Arwynebedd | 291 km² |
Uwch y môr | 83 metr |
Cyfesurynnau | 30.72°S 61.48°W |
Cod post | S2313 |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Tref fechan (comuna) yn nhalaith Santa Fe, yr Ariannin yw Moisés Ville. Sefydlwyd yn 1889 gan Iddewon o Ddwyrain Ewrop a Rwsia a oedd yn dianc rhag y pogromau ac erledigaeth. Yr enw gwreiddiol a fwriadwyd ei roi ar y dref oedd Kiryat Moshe ("Tref Moses" yn Hebraeg) i anrhydeddu Baron Maurice Moshe Hirsch, ond fe gyfieithodd yr asiant tir a gofrestodd yr anheddiad yr enw gan ei gyfieithu i fod yn debyg i'r Ffrangeg Moïsesville, a gafodd ei droi'n Sbaeneg yn ddiweddarach i gyrraedd y ffurf presennol, Moisés Ville. Lleolir y dref tua 177 cilometr o'r brifddinas taleithol, yn Departamento San Cristóbal a 616 cilometr o Buenos Aires. Roedd 2,572 o drigolion yn byw yno yn ystod cyfrifiad 2001.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Moisés Ville yn fwy nag ond anheddiad i Iddewon yr Ariannin, mae'n le mytholegol. Sefydlwyd gan grŵp o wladwyr Iddeweg Rwsiaidd a gyrrhaeddodd yno yn Awst 1889 ar yr SS Wesser o Kamenetz-Podolsk, Wcrain, cysidrir ef i fod yn wladfa amaethyddol Iddeweg cyntaf yn Ne America, gan guro grŵp llai o wlawyr o Bessarabia a sefydlodd cymuned Monigotes ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Mae'r 130 teulu (815 o bobl) "Colonos", yn cyfateb i deithwyr y Mayflower i Iddewon yr Ariannin, a gall unrhyw un sy'n medru profi disgyniaeth o'r Colonos frolio eu bod yn aelod o Aristrogaeth yr Arloeswyr Amaethyddol.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Mae'r erthygl yn cynnwys testun a'i gyfieithwyd yn syth o'r Gwyddoniadur Iddeweg 1901–1906, cyhoeddiad sydd eisoes yn y parth cyhoeddus.
- Braunstein, Gabriel. The Jewish immigration to Entre Rios, Argentina. JGSR News, Jewish Genealogical Society of Rochester.
- Zablotsky, Edgardo (May 2005). The Project of The Baron de Hirsch: Success or failure?.
- Armony, Paul (July 1997). Moisesville: The Jewish Pioneer Colony. AGJA’s magazine.
- Sofer, Eugene (October 1984). From Pale to Pampa: A Social History of the Jews of Buenos Aires. Modern Judaism.
- Weisbrot, Robert (1979). The Jews of Argentina from the Inquisition to Peron.
- Avni, Haim. Argentina & the Jews: A History of Jewish Immigration (Cyfieithiad Saesneg gan Gila Brand).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Sbaeneg) Moisés Ville Archifwyd 2005-04-24 yn y Peiriant Wayback - Gwefan rhanol swyddogol.
- (Sbaeneg) Museo Moisés Ville - Gwefan swyddogol yr amgueddfa.
- (Sbaeneg) Jewish Encyclopedia - Gwladfeydd Iddeweg yng Ngwerinaeth yr Ariannin.
- JBuff.com - Cymuned Iddeweg yr Ariannin.
- O'Mara, Richard, "Palestine on the Pampas" Archifwyd 2008-12-02 yn y Peiriant Wayback, Virginia Quarterly Review, Gaeaf 2001
- Gwefan hanes teulu'r dref, gan Mario Heifetz Archifwyd 2011-01-28 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan teulu Barg a'r dref