Miss Catherine Jones o Golomendy, ger yr Wyddgrug
Arlunydd | Richard Wilson |
---|---|
Blwyddyn | 1740au |
Math | olew ar gynfas |
Maint | 70 cm × 57 cm × (28 mod × 22 mod) |
Perchennog | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Portread olew ar gynfas yw Miss Catherine Jones o Golomendy, ger yr Wyddgrug a baentiwyd yn y 1740au gan yr arlunydd o Gymro Richard Wilson (1714–1782). Mae'r peintiad yn y casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Creodd Wilson y gwaith cynnar yma yn fuan ar ôl cwblhau ei brentisiaeth chwe blynedd o dan y portreadydd Thomas Wright. Roedd Catherine Jones, yr eisteddwraig, yn gyfnither i’r artist ac yn berchennog Neuadd Colomendy, Llanferres, Sir Ddinbych. Mae'r gwaith hwn o ddiddordeb gan ei fod yn un o'r portreadau olaf iddo eu creu cyn iddo fynd i'r Eidal lle’r arallgyfeiriodd, gan ddod yn un o artistiaid tirlun mwyaf ei gyfnod.
Europeana 280
[golygu | golygu cod]Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Europeana; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.