Colomendy (Sir Ddinbych)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Miss Catherine Jones o Colomendy, ger yr Wyddgrug gan Richard Wilson

Mae Neuadd Colomendy ym mhlwyf Llanferres, Sir Ddinbych, ychydig filltiroedd i'r gorllewin o'r Wyddgrug. Nid oes llawer o wybodaeth am y tŷ cyn 1700.

Adeiladwyd y tŷ presennol tua 1810-12, ond mae rhannau o'r adeilad yn deillio o gyfnod cynt. Yn 1824 disgrifiwyd y tŷ fel 'un o'r ystadau mwyaf cain yn y rhan yma o'r wlad'. Mae'n ystad weledig, sy'n cynnwys parc a gerddi, llwybrau cerdded trwy'r coetir hardd, twnnel creigwaith, gardd furiog a golygfeydd i fynydd Moel Famau.

Mae'n debyg taw teulu o'r enw Jones a fu'n byw yn Colomendy am ganrifoedd. Honnir iddynt ddisgyn o Heilin Fawr ac o Ithel Felyn o Iâl. Yr olaf o'r teulu oedd Catherine Jones, a fu farw ym 1786. Roedd hi'n gefnither i'r arlunydd Richard Wilson, ac yn dilyn salwch, symudodd ef i'r Colomendy yn 1781, lle'r oedd ei frawd yn oruchwyliwr stad Catherine Jones.

Gadawodd hi'r ystad i'w merch fedydd, Catherine Jones Garnons, a oedd yn perthyn iddi o bell. Daeth yr ystad i deulu'r Garnons, ac yna i deulu Davies-Cooke o Wysaney. Gwerthwyd yr ystad ym 1922 i James Taylor. Prynwyd yr ystad yn orfodol gan y 'National Camps Corporation' ym 1939. Rhwng 1939 a 1945 bu Colomendy yn noddfa i faciwîs o Lerpwl, ac wedi'r rhyfel newidiwyd y defnydd i fod yn wersyll addysgol, a byddai plant o Lerpwl yn gyson yn ymweld a'r gwersyll yn gyson. Prynodd Corfforaeth Lerpwl Colomendy ym 1957, a chymeryd drosodd y gwersyll. Arwyddodd Cyngor Dinas Lerpwl gytundeb gyda chwmni gweithgareddau addysgol Kingswood i ail-ddatblygu'r safle yn ganolfan gweithgareddau agored.

Cysylltiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Colomendy, Loggerheads, Wales ar wefan Parks and Gardens

Richard Wilson ar y Bywgraffiadur Cymreig

Teulu Davies-Cooke yn y Bywgraffiadur Cymreig

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]