Miranda (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Miranda
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Wranws, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs66 ±6 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod16 Chwefror 1948 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0013 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Miranda yw'r unfed ar ddeg o loerennau Wranws a wyddys. Miranda ydy'r fwyaf mewnol o loerennau mawr Wranws:

Cylchdro: 129,850 km oddi wrth Wranws

Tryfesur: 472 km

Cynhwysedd: 6.3e19 kg

Merch y dewin Prospero yw Miranda yn y ddrama The Tempest gan Shakespeare.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan Kuiper ym 1948.

Roedd Voyager 2 yn gorfod hedfan yn agos i Wranws er mwyn codi'r cyflymder rheidiol i gyrraedd Neifion ac oherwydd gogwydd cysawd Wranws cafodd dim ond Miranda ei gweld yn agos.

Mae Miranda'n hanner dŵr a hanner deunydd creigiog.

Mae arwyneb Miranda yn gymysglyd gyda chraterau wedi eu croesi gan rychau rhyfedd, cymoedd a chlogwyni (un dros 5 km o uchder).

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.