Milltir Gerrig
Jump to navigation
Jump to search

Golygfa o ben Milltir Gerrig, yn edrych tua Llangynog
Bwlch ym Mynyddoedd y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Milltir Gerrig neu Bwlch y Filltir Gerrig, hefyd weithiau Milltir Cerrig.
Saif ar y ffordd B4391 rhwng y Bala (Gwynedd) a Llangynog (Powys), gyda rhan o'r bwlch yn Sir Ddinbych. Mae'n cyrraedd uchder o 486 medr (1,594 troedfedd). O ran uchaf y bwlch mae llwybr yn arwain i gopa Moel Sych ac yna ymlaen i gopaon Cadair Berwyn a Chadair Bronwen.