Neidio i'r cynnwys

Maurice Griffith

Oddi ar Wicipedia
Maurice Griffith
Ganwyd1507 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1558 Edit this on Wikidata
Southwark Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llanelwy, roman catholic bishop of Rochester (England) Edit this on Wikidata

Roedd Maurice Griffith (neu Griffin) (c. 150720 Tachwedd 1558) yn Gymro a benodwyd yn Esgob Rochester.

Mae'n debyg mai yn ardal Caernarfon, tua'r flwyddyn 1507, y ganwyd, gyda chysylltiad teuluol â stâd Coetmor, Tregarth. Bu'n fynach yn Blackfriars, Rhydychen cyn ei benodi ym 1535 i swydd Vicar-General yn Rochester. Wedi rhai penodiadau uwch yn esgobaeth Rochester a Llanelwy, tuag at ddiwedd ei yrfa, fe'i benodwyd yn Esgob Rochester.

Ynghyd â William Glyn, Esgob Bangor, chwaraeodd ran yn sefydlu Ysgol Friars, Bangor.

Bu farw ar 20 Tachwedd 1558.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Gareth Alban Davies (2007), 'Maurice Griffin (?-1558), Esgob Rochester' yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyfrol 68, 2007.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.