Matthew Tindal

Oddi ar Wicipedia
Matthew Tindal
Ganwyd1657, 1653, 1656 Edit this on Wikidata
Dyfnaint Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 1733 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, diwinydd, ysgrifennwr, cyfreithegwr Edit this on Wikidata

Athronydd deistaidd o Sais oedd Matthew Tindal (165716 Awst 1733).

Mab ydoedd i glerigwr yn Bere Ferrers, Swydd Ddyfnaint, lle y ganed ef. Derbyniodd ei addysg yng ngholegau Lincoln ac Exeter, Rhydychen, a chymerodd ei radd baglor yn y celfyddydau ym 1676. Yn fuan wedi hynny fe'i etholwyd yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau, a graddiodd yn ddoethur yn y gyfraith ym 1685.

Ar ôl bod am ychydig yn proffesu ei hun yn Gatholig, yn ystod teyrnasiad y Brenin Iago II, fe droes yn ôl at Brotestaniaeth, neu yn hytrach, fel y profwyd wedi hynny, at resymoliaeth. Ysgrifennodd draethodau yn erbyn pleidwyr Iago II, ond yr yn a'i gwnaeth yn wrthrych sylw neilltuol oedd ei lyfr a elwid The Rights of the Church Asserted. Prif amcan y gwaith hwn oedd ymosod ar yr offeiriadaeth. Cododd y gwaith ystorm o wrthwynebiad iddo, a gellir ystyried, hwyrach, ei fod wedi cyflawni ei ragfynegiad ei hun, pan y dywedodd efe wrth gyfaill ei fod yn "ysgrifennu llyfr a wnâi y clerigwyr yn wallgof". Ym 1730, pan oedd ym mron wedi cyrraedd 73 oed, y cyhoeddodd ei draethawd enwocaf, o dan y teitl Christianity as old as the Creation, or the Gospel a Republication of the Religion of Nature, yr hyn a benderfynodd y cwestiwn ynghylch ei gredo ef. Yn y gwaith hwn y mae'n ymosod ar awdurdod yr Ysgrythurau. Gadawodd ail gyfrol ohono, ond ni chyhoeddwyd hi. Atebwyd ef gan Daniel Waterland, Archddiacon Middlesex, y gweinidog o Fedyddiwr James Foster, John Conybeare (yn ddiweddarach Esgob Bryste), a'r gweinidog Presbyteraidd John Leland.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.