Matthew Shepard

Oddi ar Wicipedia
Matthew Shepard
GanwydMatthew Wayne Shepard Edit this on Wikidata
1 Rhagfyr 1976 Edit this on Wikidata
Casper, Wyoming Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1998 Edit this on Wikidata
o traumatic brain injury Edit this on Wikidata
Fort Collins, Colorado Edit this on Wikidata
Man preswylLaramie, Casper, Wyoming Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wyoming
  • Catawba College
  • Natrona County High School
  • The American School In Switzerland Edit this on Wikidata
Galwedigaethmyfyriwr Edit this on Wikidata
TadDennis Shepard Edit this on Wikidata
MamJudy Shepard Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.matthewshepard.org/ Edit this on Wikidata

Roedd Matthew Wayne Shepard (1 Rhagfyr 197612 Hydref 1998) yn fyfyriwr Americanaidd hoyw a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Wyoming. Ymosodwyd arno ger Laramie ar noson y 6ed -7fed o Hydref 1998. Bu farw yn Ysbyty Poudre Valley yn Fort Collins, Colorado ar y 12fed o Hydref, o ganlyniad i anafiadau i'w ben. Tynnodd ei lofruddiaeth sylw cenedlaethol a rhyngwladol at ddeddfwriaeth yn erbyn troseddau o gasineb ar lefel talaith a ffederal.

Yn yr achos llys, plediodd Russell Arthur Henderson yn euog o lofruddiaeth a herwgipio gan osgoi y gosb eithaf. Cafwyd Aaron James McKinney yn euog o lofruddiaeth a herwgipio. Ar hyn o bryd, mae Henderson yn y carchar am ddwy ddedfryd o garchar am oes tra bod McKinney yno am yr un ddedfryd ond heb obaith am barôl.

Mae'r ddrama Gwaun Cwm Garw yn seiliedig ar hanes ei farwolaeth.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Shepard, mab hynaf Dennis Shepard a Judy Shepard (nėe Peck) yn Casper, Wyoming. Mynychodd Ysgol Crest Hill Elementary School, Dean Morgan Junior High a'r ddwy flynedd gyntaf o'r ysgol uwchradd yn Natrona County High School. Roedd yn aelod o Eglwys Episcopal Sant Mark. Treuliodd Shephard ei flynyddoedd iau ac hyn o'r ysgol uwchradd yn Yr Ysgol Americanaidd yn y Swistir. Wedi iddo raddio ym 1995, mynychodd Coleg Catawba a Choleg Casper cyn ad-leoli i Denver. Yna, daeth Shepard yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Wyoming a chafodd ei ddewis fel cynrychiolydd y myfyrwyr ar Gyngor Amgylcheddol Wyoming.

Cafodd ei ddisgrifio gan ei rieni a chan ffrind agos o Orlando, Florida, Frankie J. McGraw fel "...an optimistic and accepting young man ...[who]... had a special gift of relating to almost everyone. He was the type of person that was very approachable and always looked to new challenges. Matthew had a great passion for equality and always stood up for the acceptance of people's differences."

Yr Ymosodiad[golygu | golygu cod]

McKinney a Henderson yn yr achos llys

Ychydig wedi canol nos ar y 7fed o Hydref 1998, cyfarfu Shepard a McKinney a Henderson mewn bar. Cynigiodd McKinney a Henderson lifft i Shepard yn eu car. Arweiniodd hyn at Shepard yn cael ei ladrata, ei chwipio â phistol, ei arteithio, ei glymu i ffens mewn ardal wledig, anghysbell a'i adael yno i farw. Daeth McKinney a Henderson o hyd i'w gyfeiriad hefyd gyda'r bwriad o ddwyn ei eiddo. Darganfuwyd Shepard deunaw awr yn ddiweddarach, wedi'i glymu i'r ffens o hyd, gan berson ar feic a gredodd yn wreiddiol mai bwgan brain oedd yno. Pan gafodd ei ddarganfod, roedd Shepard dal yn fyw ond mewn coma.

Dioddefodd Shepard doriad o gefn ei ben i du blaen ei glust dde. Roedd ganddo ddifrod difrifol i fonion yr ymennydd a effeithiodd ar allu ei gorff i reoli curiad ei galon, tymheredd ei gorff ac arwyddion allweddol eraill. Roedd hefyd tua dwsin o friwiau bychain o amgylch ei ben, wyneb a'i wddf. Ystyriwyd ei anafiadau yn rhy ddifrifol i wneud llawdriniaeth arnynt. Parhaodd Shepard yn anymwybodol ac arhosodd ar beiriant cynnal bywyd. Wrth iddo orwedd yn yr uned gofal dwys, cynhaliodd trigolion Laramie wylnos dan olau cannwyll.

Bu farw am 12.53y.b. ar y 12fed o Hydref 1998 yn Ysbyty Poudre Valley yn Fort Collins. Arestiodd yr heddlu McKinney a Henderson yn fuan wedi hyn, gan ddod o hyd i'r gwn gwaedlyd ac esgidiau a waled Shepard yn eu cerbyd.

Roedd y ddau ddyn wedi ceisio cael eu cariadon i ddarparu alibi ar eu cyfer.

Yr Achos Llys[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr achosion llys, defnyddiodd y ddau ddiffynnydd storïau amrywiol er mwyn cyfiawnhau eu gweithredoedd. Ceision nhw ddefnyddio'r "amddiffyniad o banig hoyw", gan ddadlau er bod wedi cael eu gyrru i sefyllfa o orffwylldra dros dro am iddynt honni fod Shepard wedi dangos diddordeb rhywiol ynddynt. Dro arall, dywedodd y ddau mai eu bwriad oedd i ddwyn wrth Shepard ac nad oedd yn fwriad ganddynt ei ladd.

Yn yr achos cyhuddodd yr erlynydd McKinney ac Henderson o esgus bod yn hoyw er mwyn ennill ymddiriedaeth Shepard er mwyn gallu ei ladrata. Yn ystod yr achos llys, tystiodd Chastity Pasley a Kristen Price (cariadon y ddau ar y pryd) o dan lw bod Henderson a McKinney wedi bod yn cynllunio ymlaen llaw i ddwyn wrth ddyn hoyw. Yna aeth McKinney a Henderson i'r Lakeside Lounge lle dewisant Shepard fel eu targed. Honnodd McKinney fod Shepard wedi gofyn iddynt am lifft adref. Ar ôl iddynt ddod yn gyfeillgar ag ef, aethant ag ef i ardal anghysbell o Laramie lle roeddent wedi dwyn ei eiddo, ymosod yn ddifrifol arno (roedd adroddiadau'r wasg yn cynnwys disgrifiad manwl o'r modd y cafodd ei chwipio gan bistol a sut y cafodd ei benglog ei chwalu) a'i glymu i ffens gan ddefnyddio darn o raff o gerbyd McKinney. Tystiodd y ddwy gariad nad oedd McKinney na Henderson ar gyffuriau ar y pryd.

Plediodd Henderson yn euog ar y 5ed o Ebrill, 1999 a chytunodd i dystio yn erbyn McKinney er mwyn osgoi'r gosb eithaf; derbyniodd ddau ddedfryd o fywyd nesaf at ei gilydd. Daeth y rheithgor i'r ddyfarniad fod McKinney'n euog o lofruddiaeth. Wrth iddynt ddechrau ystyried y gosb eithaf, daeth rhieni Shepard i gytundeb a arweiniodd at McKinney'n derbyn dau ddedfryd olynol o fywyd yn y carchar heb y posibilrwydd o barôl.

Carcharwyd Henderson a McKinney yng Ngharchar Talaith Wyoning yn Rawlins ond cawsant eu trosglwyddo i garchar Nevada oherwydd gor-boblogi.

Adroddiad 20/20 ABC[golygu | golygu cod]

Tua diwedd 2004, adroddodd gohebydd ABC Elizabeth Vargas ar ymchwiliad i mewn i'r llofruddiaeth ar gyfer y rhaglen deledu 20/20. Er i Vargas ddibynnu'n bennaf ar gyfweliadau personol gyda phobl a oedd ynghlwm â'r achos, hysbysebwyd yr adroddiad fel un a oedd yn edrych ar "New Details Emerging in the Matthew Shepard Murder." Prif awgrym y rhaglen oedd y posibilrwydd taw prif achos y llofruddiaeth oedd cyffuriau yn hytrach na rhywioldeb Shepard. Honnodd McKinney, Henderson a Kristen Price (cariad McKinney) yn y cyfweliadau hyn fod yr ymosodiad yn sgîl defnydd helaeth o gyffuriau, lladrad ac ymosodiad a aeth yn rhy bell. Yn ei chyfweliad â Vargas meddai Price: "I do not think it was a hate crime at all. I never did." Roedd y datganiad hwn yn gwrthddweud cyfweliad cyntaf Price gyda 20/20 ym 1998 pan ddywedodd am ymosodiad McKinney a Henderson "They just wanted to beat him bad enough to teach him a lesson, not to come on to straight people, and don’t be aggressive about it anymore,”. Yn yr adroddiad, dywedodd Price a Tom O'Connor, hen gyfaill i McKinney (arferai McKinney a Price fyw mewn cartref a oedd yn eiddo iddo yn y gorffennol) eu bod o'r farn bod McKinney yn cyfunrywiol. Fodd bynnag, pan ofynnodd Vargas i McKinney os oedd ef erioed wedi cael profiad rhywiol gyda dyn arall, dywedodd nad oedd wedi.

Wedi iddo ymddeol, beirniadodd Commander Dave O'Malley, Swyddog yr Heddlu yn Laramie yr adroddiad 20/20 mewn cyfweliad gyda ABC. Meddai nad oedd y posibilrwydd fod y ddau ar gyffuriau yn dileu'r syniad fod rhyw ysgogiad homoffobig ganddynt hefyd. Dywedodd “My feelings have been that the initial contact was probably motivated by robbery because they needed money. What they got was $20 and a pair of shoes ... then something changed and changed profoundly... But, we will never, ever know because Matt’s dead and I don’t trust what [McKinney a Henderson] said.”

Ymateb Cyhoeddus i'r Achos[golygu | golygu cod]

Daeth Eglwys y Bedyddwyr, Westboro yn Topeka, Kansas i brotestio yn angladd Shepard yn ogystal ag yn achos llys McKinney a Henderson. Arweiniwyd y brotest gan Fred Phelps ac roeddent yn arddangos sglogau fel "Matt Shepard rots in Hell", "AIDS Kills Fags Dead" a "God Hates Fags". Pan benderfynodd Uchel-Lys Wyoming ei fod yn gyfreithlon i arddangos unrhyw fath o neges grefyddol ar eiddo'r ddinas os oedd yn gyfreithlon i Ddeg Gorchymyn Casper i barhau yno, ceisiodd Phelps (yn aflwyddiannus) i adeiladu cof-golofn "of marble or granite 5 or 6 feet (1.8 m) in height on which will be a bronze plaque bearing Shepard's picture and the words: "MATTHEW SHEPARD, Entered Hell Hydref 12, 1998, in Defiance of God's Warning: 'Thou shalt not lie with mankind as with womankind; it is abomination.' Leviticus 18:22."

Fel gwrth-brotest yn ystod achos llys Henderson, trefnodd un o gyfeillion Shepard, Romaine Patterson, grŵp o unigolion a ffurfiodd gylch o amgylch grŵp Phelps yn gwisgo dillad gwynion ac adenydd enfawr (er mwyn edrych fel angylion) er mwyn atal y protestwyr. Bu'n rhaid i'r heddlu greu cadwyn dynol rhwng y ddau grŵp o brotestwyr. Er nad oedd gan y grŵp enw penodol yn ystod y brotest wreiddiol, ers hynny maent wedi cael eu galw'n "Angylion Heddwch" a "Gweithredoedd yr Angylion". Daeth y ffens lle clymwyd Shepard a lle cafodd ei adael i farw yn rhyw fath o fan teyrnged i Shepard ac bu ymwelwyr yn ymweld â'r fan er mwyn gadael nodiadau, blodau a gwrthrychau eraill. Ers hynny, maent wedi cael eu symud gan berchennog y tir.

Yn ystod y blynyddoedd ar ôl marwolaeth Shepard, daeth ei fam Judy yn ymgyrchydd brwd dros hawliau LHDT, ac yn benodol materion sy'n ymwneud â phobl ifanc hoyw. Hi yw'r prif ddylanwad tu ôl y Matthew Shepard Foundation, sy'n cefnogi amrywiaeth a goddefgarwch o fewn sefydliadau i bobl ifanc.

Yn y flwyddyn 2006, rhyddhaodd y band metal Trivium gân o'r enw "Sadness Will Sear" am farwolaeth Shepard. Dwy flynedd yn ddiweddarach, recordiodd y band Iseldireg Balladeer "Poster Child" fel teyrnged i Shepard gan grwu fideo i gyd-fynd â'r gân.

Ysgrifennodd Mike Lewis, cyn-prif leisydd y bandiau Puller a For Love Not Lisa, gerdd am Matthew ar gyfer The Poetry Tour, taith ddarllen cerddi a oedd yn cynnwys Lewis, Mark Soloman o Stavesacre, a Reese Roper o Five Iron Frenzy. Yn ddiweddarach cyhoeddwyd y gerdd mewn argraffiad o gylchgrawn HM Magazine a oedd wedi ysgrifennu adolygiad o'r daith.